CUDDIO (haen 2)

Daeth Dani a Lowri i’r cei i wylio Dad yn cychwyn allan i bysgota. Llong bysgota fawr oedd y Wylan Wen. Byddai Dad allan arni am ddyddiau. A phan ddeuai’n ôl, byddai yr howld yn llawn o benfras a hadog a mecryll.

‘Mi fydda inna’n bysgotwr rhyw ddiwrnod,’ meddai Dani wrth ei efell.

‘A finna,’ meddai Lowri.

‘Dydi genethod ddim yn pysgota ar y môr mawr,’ meddai Dani.

‘Mi fydda i,’ meddai Lowri.

Cafodd Dani syniad da.

‘Mi awn ni arni,’ meddai.

‘A chuddio hefyd,’ meddai Lowri. ‘Gêm?’

Sleifiodd y ddau i fyny’r planc a chuddio mewn cwpwrdd bychan yn ymyl y caban. Clic! Caeodd y drws.

‘Castiwch i ffwrdd!’ gwaeddodd Dad.

Roedd y ddau yn dechrau teimlo’n sâl. Dechreuodd y llong godi a gostwng ar y tonnau wrth iddi adael yr harbwr. Roedd hi’n boeth annifyr yn y cwpwrdd.

‘HELP!’ gwaeddodd y ddau.

Agorodd Dad y drws ac edrych yn syn arnynt.

‘Rydyn ni’n rhy bell i droi’n ôl,’ meddai’n ddig. ‘Rhaid anfon neges i Mam ar unwaith.’

Er bod Dad yn ddig, roedden nhw wrth eu bodd ar y llong. A doedden nhw ddim yn teimlo’n sâl rðan chwaith. Ond Brrr! Roedd hi’n dechrau oeri.

‘Gwisgwch rhain,’ meddai Dad gan estyn siwmperau mawr a saneuau tew a sowesters iddynt.

Dyna olwg od oedd arnynt. Roedd y dillad lot yn rhy fawr, ond roedden nhw’n gynnes braf.

Gwyliodd Dani a Lowri y llongwyr yn gollwng y rhwydi i’r môr. Yna llusgodd y Wylan Wen nhw ar ei hôl i ddal y pysgod.

Erbyn hyn roedden nhw mhell o’r lan. Duodd yr awyr a daeth gwynt cryf.

‘Ewch i’r caban. Mae’n codi’n storm,’ gwaeddodd Dad arnynt. Yna ......... ‘Codwch y rhwydi!’ bloeddiodd.

Haliodd y llongwyr ynddynt. Roedd yn waith caled iawn. Tywalltodd y pysgod yn gawod fel arian ar y dec.

Trodd y Wylan Wen am adre. Tybed fedren nhw gyrraedd yn ddiogel? Sbonciai’r Wylan Wen drwy’r tonnau. Ond roedd Dad yn ei llywio’n ddiogel.

Erbyn cyrraedd yr harbwr, roedd Dani a Lowri yn sâl môr go iawn. Tybed wnaethon nhw fwynhau’r fordaith?