Gwaith
Trafod
Gan weithio mewn pâr.
Dychmygwch mai chi yw Lowri a Dani yn y cwpwrdd bychan wrth y caban.
Beth fydd y sgwrs?
Ceisiwch gyfleu'r cynnwrf cychwynnol ac yna hwnnw yn ei dro yn troi'n ddiflastod llwyr.
Testun
| 1. | Oedd Dani yn iawn i ddweud 'Dydi genethod ddim yn
pysgota ar y môr mawr'. Beth yw eich barn chi? Rhowch resymau dros eich ateb. |
| 2. | Roedd yn rhaid i Dad anfon neges radio i Mam.
Beth oedd cynnwys y neges tybed? Dychmygwch ac ysgrifennwch. |
| 3. | penfras hadog
macrell Dyma dri pysgodyn sy'n cael eu henwi yn y stori. Ewch i chwilio am wybodaeth amdanynt ac ysgrifennwch ddwy frawddeg am bob un. |
Ysgrifennu
Yn dilyn y gwaith trafod ysgrifennwch y ddeialog rhwng Dani a Lowri.
Brawddeg
Mewn cymhariaeth neu gyffelybiaeth bydd awdur yn dweud bod un peth yn debyg i rywbeth
arall. Yn aml bydd yn defnyddio'r gair 'fel' e.e. 'Sbonciai'r llong fel ceffyl
gwyllt drwy'r tonnau'. Dyma'ch cyfle chi i gymharu -
Roedd y llong yn codi a gostwng ar y tonnau fel ............
'Roedd Lowri yn teimlo'n sal fel ............
a wyneb Dani yn wyn fel ..........
Pan gafodd dad hyd iddynt roedd yn flin fel .........
Roedd y plant yn edrych fel ........... yn eu dillad cynnes.
Gair
Yn y stori gwelir enghreifftiau o eiriau yn cynnwys 'oe'
e.e. poeri roedden
coesau
bloeddiodd
Chwiliwch am ychwaneg o eiriau tebyg ac yna ewch atii i chwarae'r gem 'oe'