Trafod

Ewch i grwpiau o dri a chwaraewch rôl Dad, Lowri a Dani.  Gan roi Dad yn y 'sedd boeth' ewch ati i'w holi am y diwrnod y cafodd hyd i Lowri a Dani yn cuddio yn y cwpwrdd.   Beth oedd ei ymateb cyntaf?  Oedd o'n ddig?  Wnaeth o faddau i'r plant?

              
Testun

1. Beth yn eich barn chi oedd apęl pysgota ar y môr i'r ddau efaill.
2. 'Sbonciai'r llong fel ceffyl gwyllt drwy'r tonnau'.
Eglurwch beth mae hyn yn ei ddweud wrthych am y modd mae'r llong yn symud ar y môr.
3. Penderfynodd yr awdur alw'r stori yn 'Cuddio'.   Allwch chi feddwl am deitl arall i'r stori.  Rhowch resymau dros eich dewis.

                                                                           
Ysgrifennu

Roedd Dani a Lowri yn chwilio am antur.  Beth fyddai eich syniad chi o antur cyffrous.
Ysgrifennwch gan ddilyn y strwythur canlynol:
                            

Paragraff 1 Cefndir y stori a chyflwyno cymeriadau.
Paragraff 2 Digwyddiad
Paragraff 3 Sut yr ydych yn mynd ati.
Paragraff 4 Diweddglo i'r stori.

                 
Brawddeg
                         
Yn y stori ceir geiriau sy'n disgrifio rhannau o'r cwch sef:
                         
            howld    dec    caban    planc

Ysgrifennwch bedair brawddeg sy'n cynnwys y geiriau hyn i ddangos eich bod yn deall eu hystyr.

Gair
            
Mae enwau pobl a lleoedd yn dechrau gyda prif llythyren.  Gwelir yr enwau hyn yn y stori.  Pa enwau ddylid dechrau gyda priflythyren?
Gwnewch restr ohonynt.
                            

dani llong môr
harbwr injan lowri
dad wylan wen pysgod