|
GRACE DARLING (haen 1) Noson stormus yn y flwyddyn 1838 oedd hi. Taranai’r gwynt o gwmpas y goleudy, a chodai’r tonnau i ddymchwel dros y creigiau. Bu Grace a’i rhieni yn gweithio’n galed. Roedd yn rhaid clymu eu cwrwgl bychan yn ddiogel rhag i’r môr ei gipio, a chludo’r pethau o’r cwt wrth y drws i’r goleudy hefyd. A doedd brawd Grace ddim yno i’w helpu. Roedd pawb yn wlyb domen erbyn gorffen. Tynasant eu dillad uchaf a’u taenu i sychu o flaen y tân. ‘Dos i dy wely,Grace,’ meddai ei mam. ‘Rhaid iti godi am bedwar i wylio’r lampau yn lle dy dad.’ ‘Iawn,’ atebodd Grace yn flinedig. Dringodd i fyny’r grisiau a syrthio i’w gwely. Fe deimlai’n ddiogel rhwng muriau cadarn y goleudy er bod y gwynt yn chwibanu’n wyllt y tu allan. Cysgodd. Ond am bedwar, deffrodd ei thad hi. ‘Dy dro di ydi hi rđan,’ meddai. ‘Cofia ddiffodd y lampau wedi i’r wawr dorri. Rhaid cynilo olew.’ Pan ddaeth llygedyn cyntaf y wawr, dringodd Grace at y lampau i’w diffodd. Dychrynodd wrth edrych drwy’r ffenest. Drylliwyd llong anferth ar graig Harker Fawr. ‘Dad! Dad!’ gwaeddodd. ‘Mae llong ar y creigiau! ‘ Gwisgodd ei thad yn frysiog. Syllodd i gyfeiriad y graig efo’i delesgop. ‘Y llong ager Forfarshire ydi hi,’ meddai. ‘Mae yn cludo tua hanner cant o deithwyr fel arfer.’ Yna gwelsant ychydig o bobl ar y graig. Golchai’r môr drostynt. Doedd dim modd iddynt ddal eu gafael yn hir. ‘Fedra i mo’u hachub heb dy frawd,’ meddai ei thad. ‘Mi ddo i efo chi,’ meddai Grace yn ddewr. ‘Ond merch wyt ti,’ oedd yr ateb. ‘Dim ots,’ meddai Grace. Roedd ei thad ar gyfyng gyngor. Cwrwgl bychan ysgafn oedd ganddyn nhw. A tybed fedrai merch rwyfo drwy y fath storm? ‘Peidiwch â mynd,’ erfyniodd ei mam. ‘Mae’n rhy beryglus. Mi fyddwch yn siđr o foddi.’ ‘Ond mae’r bobl yna’n siđr o foddi hefyd,’ meddai Grace. ‘Dowch, Dad.’ Sbonciai’r cwrwgl ar y tonnau wrth iddynt geisio rhwyfo i gyfeiriad Halker Fawr. Ysgubai’r gwynt ef yma ac acw. Rhewai eu dwylo’n grebachlyd ar y rhwyfau. Ond doedden nhw ddim am droi’n ôl. O’r diwedd cyraeddasant y graig. Roedd y bobl druan yn gweiddi ac yn estyn eu dwylo yn ymbilgar. ‘Does dim lle ichi i gyd y tro yma,’ gwaeddodd ei thad. ‘Rhaid dod yn ôl eto.’ Llwyddasant i gyrraedd y goleudy yn ddiogel. Ond roedd yn rhaid achub y gweddill. Y tro yma, aeth dau o’r teithwyr efo’i thad. Cafodd Grace glod mawr am fod yn ferch mor ddewr.
|
||