GRACE DARLING (haen 2)

Noson stormus iawn yn y flwyddyn 1838 oedd hi. Chwythai’r gwynt o gwmpas y goleudy a chodai’r tonnau yn wyllt dros y creigiau. Bu Grace a’i rhieni yn gweithio’n galed. Bu’n rhaid clymu’r cwrwgl bychan yn ddiogel, a chludo pethau o’r cwt i’r goleudy hefyd. A doedd brawd Grace ddim yno i’w helpu.

Wedi gorffen, tynasant eu dillad gwlyb a’u rhoi i sychu o flaen y tân.

‘Dos i dy wely, Grace,’ meddai ei mam. ‘Rhaid iti godi’n fore i wylio’r lampau.’

Aeth Grace i’w gwely yn flinedig. Cysgodd nes y deffrodd ei thad hi.

‘Dy dro di rðan,’ meddai. ‘A chofia ddiffodd y lampau wedi iddi oleuo. Rhaid cynilo olew.’

Pan ddaeth y wawr, diffoddodd Grace y lampau ac edrych drwy’r ffenest. Dychrynodd. Roedd llong ar graig Harker Fawr.

‘Dad! Dad!’ gwaeddodd. ‘Mae llong ar y creigiau.’

Edrychodd ei thad drwy ei delescop.

‘Y llong ager Forfarshire ydi hi,’ meddai. ‘Mae yn cludo llawer o deithwyr fel arfer.’

Yna gwelsant bobl ar y graig. Golchai’r môr drostynt. Doedd dim modd iddynt ddal eu gafael yn hir.

‘Fedra i mo’u hachub heb dy frawd,’ meddai ei thad.

‘Mi ddo i efo chi,’ meddai Grace.

‘Ond merch wyt ti,’ meddai ei thad.

Tybed fedrai merch rwyfo drwy’r môr stormus?

‘Mi fyddwch yn siðr o foddi,’ poenodd ei mam.

‘Ond beth am y bobl ar y graig?’ holodd Grace. ‘Dowch, Dad.’

Sbonciai’r cwrwgl ar y tonnau wrth iddynt anelu am y graig. Rhewai eu dwylo ar y rhwyfau. Ond roedden nhw’n benderfynol o rwyfo ymlaen.

O’r diwedd cyraeddasant y graig. Roedd y bobl yn gweiddi am help.

‘Does dim lle i bawb,’ gwaeddodd ei thad. ‘’Rhaid dod yn ôl eto.’

Cyraeddasant y goleudy wedi blino’n llwyr. Ond roedd yn rhaid achub y gweddill. Y tro yma, aeth dau o’r teithwyr efo’i thad.

Cafodd Grace glod mawr am iddi fod yn ferch mor ddewr.