Gwaith

Trafod


Sut fyddech chi'n ymdopi â byw mewn goleudy am gyfnod o fis.  Beth fyddai'r manteision a'r anfanteision.  Cofiwch roi rhesymau dros eich barn a'ch sylwadau.


Testun
1. Beth oedd prif ddyletswyddau Grace Darling a'i rhieni.   Pam oedd eu gwaith mor bwysig?
2. Roedd Grace Darling yn eneth ddewr iawn.  Beth tybed sy'n gwneud person dewr?
Rhoddwn enghraifft o rywun yr ydych chi'n ei gyfrif yn ddewr.  Rhowch resymau dros eich dewis.
3. Mae tad Grace yn 'sexist'!  Chwiliwch am dystiolaeth yn y stori sy'n profi neu'n gwrthbrofi hyn.
Ysgrifennu

Dychmygwch eich bod yn deithiwr ar fwrdd y Forfarshire.  Disgrifiwch eich teimladau wrth i'r llong daro yn erbyn y creigiau ac yna'r gorfoledd wrth gyrraedd y goleudy'n saff.


Brawddeg

Roedd Grace Darling yn ddewr.  Edrychwch yn y Thesawrws Cymraeg.  Pa eiriau eraill y gellir eu defnyddio yn lle'r gair dewr.  Dewiswch un ohonynt ac ysgrifennwch frawddeg yn cynnwys y gair hwnnw.

Gwnewch yr un fath â'r ansoddeiriau canlynol:

        diogel         gwyllt         anferth         peryglus

Gair

eu cwrwgl ei delisgop eu dwylo

Dyma enghreifftiau o ei ac eu yn cael eu defnyddio yn y stori.

Llenwch y bylchau

'Mae'r eneth yn rhedeg ar ol  ___   chi.
            
Aeth y bechgyn i'r gem beldroed ar ___  beiciau.
                   
Rhoddodd yr athro  ___  lyfr ar y bwrdd.
                                       
Mae'r gyrrwr blin yn canu  ___  gorn.
                 
Mae'r plant yn cadw ___  bagiau yn y cyntedd.