Gwaith

Trafod


Pe baech yn gorfod treulio mis mewn goleudy - beth fyddech chi yn fynd gyda chi?
Trafodwch.

Testun

1. Nid oedd brawd Grace yn y goleudy y diwrnod hwnnw.   Ym mhle roedd o tybed?
Dyfalwch ac ysgrifennwch
                             
2.
  Ffaith Barn
Roedd Grace a'i theulu yn gweithio'n galed yn y goleudy.

Mae pobl ddewr yn brin iawn.

Roedd y llong wedi taro craig Harker Fawr.

Roedd y môr yn stormus.

Fe all bywyd mewn goleudy fod yn unig iawn.
   

3.
                           
Dyma restr o frawddegau sydd i'w gweld yn stori Grace Darling.
Rhowch y brawddegau yn y drefn gywir gan roddi rhif 1-6 ar gychwyn bob un.
                                  
  •  
Diffoddodd Grace y lampau ac edrych drwy'r ffenest.
  •  
Does dim lle i bawb gwaeddodd ei thad.   Rhaid dod yn ôl eto.
  •  
Sbonciai'r cwrwgl ar y tonnau wrth iddynt anelu am y graig.
  •  
Roedd llong ar graig Harker Fawr.
  •  
Cyraeddasant y goleudy wedi blino'n llwyr.

Ysgrifennu

Roedd Grace yn eneth arbennig.
Dewisiwch berson yr ydych chi yn ei edmygu.
Disgrifiwch ef neu hi o ran golwg sef corff, wyneb, llygaid, gwallt a.y.y.b.
Yna disgrifiwch gymeriad y person - diddordebau ac arferion.
I gloi gallwch ddweud sut yr ydych chi'n teimlo tuag at y person yma.

Brawddeg

Mae to bach neu acen grom ar ben ambell lythyren mewn rhai geiriau. 
Dyma enghreifftiau o'r stori:        tân         môr         ôl

Weithiau gall yr un gair heb y to bach fod ag ystyr arall iddo.

tôn

-

ton
glân - glan
côt - cot

Ysgrifennwch frawddegau yn cynnwys y chwe gair yma.

Gair

Dyma gymysgedd o enwar unigol ac enwau lluosog sydd i'w cael yn y stori.  Ewch ati i lenwi'r bylchau.

unigol lluosog

cwrwgl
cwt

ffenest
llong

 

tonnau


lampau


creigiau
rhwyfau