JONA A’R PYSGODYN MAWR! (haen 1)

Un diwrnod fe glywodd Jona lais cryf yn galw arno. Nid oedd yn adnabod y llais ac ni wyddai llais pwy ydoedd. Roedd wedi dychryn yn arw ac yn llawn penbleth. Bu’n hir cyn sylweddoli mai llais Duw ydoedd.

‘Jona,’ meddai’r llais wrtho. ‘Rydw i eisio iti fynd i bregethu i Ninefe.’

‘I Ninefe?’ holodd Jona yn syn. ‘At y bobl ddrwg a chreulon yna? O .. na, plis!’

Ond doedd Duw ddim am wrando.

‘Rhaid iti eu rhybuddio,’ meddai. ‘Rhaid iddyn nhw edifarhau am eu drygioni, neu mi fydda i’n chwalu y dref. Dos ar unwaith.’

Ni wyddai Jona beth i’w wneud. Roedd pobl Ninife yn enwog am eu creulondeb at ddieithriaid. Ni fyddent am wrando arno fo ac fe deimlai yn sïwr y byddent yn ei gosbi neu ei ladd. Roedd angen rhywun llawer cryfach a dewrach na fo i ddwyn perswad ar ddihirod Ninife.

Wedi meddwl yn hir fe benderfynodd Jona ddianc oddi wrth y llais ac fe gychwynnodd ar daith hir, nid i Ninefe ond i’r cyfeiriad arall. Aeth i gyfeiriad harbwr Jopa gyda’r bwriad o ddal llong a fyddai yn ei gario i rhyw gornel bell o’r byd lle na fyddai neb yn ei adnabod a lle na fyddai Duw yn gallu dod o hyd iddo. Pan gyrhaeddodd Jopa fe gerddodd ar hyd yr harbwr prysur i geisio dod o hyd i long a oedd ar fin gadael i wlad bell. O’r diwedd fe ddaeth o hyd i long a oedd yn llwytho ar gyfer taith i Darsis.

‘Perffaith’, meddyliodd, ‘mae Tarsis yn bell iawn o bobman’. Roedd yn lle perffaith i guddio. Fyddai neb yn ei adnabod ac roedd yn sicr na fyddai byth eto’n clywed llais Duw. Talodd am y fordaith a dringodd i fyny’r rhodfa i’r llong. Edrychodd tros ei ysgwydd ac aeth o’r golwg i’r howld i gysgu.

‘Fydd Duw ddim yn gwybod lle’r ydw i,’ sibrydodd wrtho’i hun.

Ond wrth gwrs, fe wyddai Duw bod Jona wedi anufuddhau a’i fod yn ceisio dianc i Darsis ar fwrdd y llong. I ddangos ei siom fe achosodd i storm fawr godi. Yn fuan roedd y gwynt yn udo a’r tonnau yn arllwys tros fwrdd y llong. Dychrynodd pawb ac fe ddechreuasant weddïo i’w duwiau. Pawb ond Jona. Roedd Jona yn parhau mewn trwmgwsg yn yr howld.

Teimlodd law ar ei ysgwydd a llais bloesg yn ei glust, ‘Deffro ar unwaith.’ ‘Gweddïa i dy dduwiau.’ Agorodd ei lygaid a gwelodd y capten, y criw a’r teithwyr eraill yn gylch o’i amgylch. Roedd y morwyr yn ofergoelus ac wedi gweddïo ar eu duwiau roeddynt am ddod o hyd i achos y storm.

‘Mae rhywun wedi achosi’r storm ofnadwy yma,’ meddent. ‘Rhaid bwrw coelbren i weld pwy ydi o.’

A phwy a ddewiswyd ganddi? Jona, wrth gwrs!

Yng nghanol y storm dywyll fe drodd pob llygaid ar Jona. Gallai eu teimlo yn rhythu arno. Ni wyddai beth i’w wneud. Roedd arno ofn y storm a’r môr a godai fel mynyddoedd o amgylch y llong, ond fe ofnai’n edrychiad filain a welai yn llygaid y morwyr yn fwy. Gwyddai mai dial Duw oedd hyn am iddo wrthod ufuddhau i’w orchymyn ac nod oedd modd dianc rhag ei gosb.

‘Pa ddrwg wnes ti?’ gofynnodd un o’r criw iddo..

‘Wel ..’ meddai Jona. ‘Rydw wedi dianc oddi wrth Dduw.’

‘Pa Dduw?’ holodd y criw eto.

‘Y Duw a wnaeth y ddaear a’r môr,’ meddai Jona.

‘Be ....?’ meddai’r criw gan fethu â choelio’u clustiau. ‘Does dim rhyfedd ein bod ni’n suddo felly. Be wnawn ni rwan?’

Ni wyddai Jona sut i ymateb ond clywodd ei lais yn dweud, ‘Taflwch fi i’r môr. Mi fydd y storm yn sïwr o ddistewi wedyn.’ Roedd Jona wedi synnu gyda’i ddewrder a’i ffolineb.

‘Wel ....’ meddai’r criw yn anghysurus.

Doedden nhw ddim eisio i Jona foddi, ond doedden nhw ddim eisio i’r llong suddo chwaith.

‘Ymmm!’ medden nhw gan edrych ar ei gilydd ac ar y capten.

Ond roedd y storm yn cynyddu’n ffyrnig. O’r diwedd, dyma nhw’n gafael yn Jona ac yn ei daflu i’r môr. Ar unwaith, gostegodd y storm.

‘Duw Jona ydi’r unig gwir Dduw,’ medden nhw.

Ond beth am Jona druan? Roedd ofn arno. Suddodd yn is ac yn is i waelod y môr.

‘Plis, Dduw,’ erfyniodd. ‘Paid â gadael imi foddi.’

Yr eiliad nesaf, nofiodd pysgodyn anferth amdano a’i safn ar agor. Llyncodd Jona.

‘AAAGGHHH!’ bloeddiodd wrth lithro’n bendramwnwgl i lawr ei gorn gwddf i dywyllwch dudew ei stumog. Pan ddaeth ato’i hun fe addawodd i Dduw y byddai’n mynd i Ninife.

‘Dduw,’ Mi a i i Ninefe,’ addawodd Jona.

‘Iawn, felly,’ meddai Duw ac yn ddisymwch fe gyfogodd y pysgodyn Jona ar y traeth . Roedd Jona wedi dysgu ei wers ac er gwaethaf popeth roedd yn fyw i ddweud ei hanes.

‘Rydw i’n mynd i Ninefe rwan hyn, Dduw,’ meddai gan gychwyn ar ei daith.

Wedi cyrraedd Ninife fe aeth Jona ati i bregethu a rhannu neges Duw gyda’r bobol. Fe gasglai torfeydd mawr i wrando arno ac er mawr syndod iddo fe benderfynodd y bobl fod yn dda a charedig o hynny mlaen.

‘Da iawn, Jona,’ meddai Duw.