JONA A’R PYSGODYN MAWR! (haen 2)

‘Jona,’ meddai Duw un diwrnod. ‘Rydw i eisio iti fynd i bregethu i Ninefe.’

‘I Ninefe?’ holodd Jona yn syn. ‘At y bobl ddrwg a chreulon yna? O .. na, plis!’

Ond doedd Duw ddim yn gwrando.

‘Rhaid iti eu rhybuddio,’ meddai. ‘Rhaid iddyn nhw edifarhau am eu drygioni, neu mi fydda i’n chwalu’r dref. Dos ar unwaith.’

Fe aeth Jona. Ond nid i Ninefe. O na! Aeth i’r cyfeiriad arall. I harbwr Jopa. Yno roedd llong ar gychwyn am Tarsis. Ac roedd fan’no ym mhen draw’r byd. Talodd am y fordaith ac aeth i gysgu i’r howld.

‘Fydd Duw ddim yn gwybod lle’r ydw i,’ meddyliodd.

Ond wrth gwrs, roedd Duw yn gwybod bod Jona wedi anufuddhau. Achosodd i storm fawr godi. Yn fuan roedd y gwynt yn udo a’r tonnau yn arllwys tros fwrdd y llong.

Dechreuodd pawb weddïo i’w duwiau. Pawb ond Jona. Roedd o’n dal i gysgu yn yr howld.

‘Deffro ar unwaith,’ gorchmynnodd y capten. ‘Gweddïa i dy dduwiau.’

‘Mae rhywun wedi achosi’r storm ofnadwy yma,’ meddai’r criw. ‘Rhaid bwrw coelbren i weld pwy ydi o.’

A phwy a ddewisiwyd ganddi? Jona, wrth gwrs!

‘Pa ddrwg wnes ti?’ holasant yn ddig.

‘Wel ..’ meddai Jona. ‘Rydw wedi dianc oddi wrth Dduw.’

‘Pa Dduw?’ holodd y criw eto.

‘Y Duw a wnaeth y ddaear a’r môr,’ meddai Jona.

‘Be ....?’ meddai’r criw gan fethu â choelio’u clustiau. ‘Does dim rhyfedd ein bod ni’n suddo felly. Be wnawn ni rwan?’

‘Taflwch fi i’r môr,’ meddai Jona yn ddewr. ‘Mi fydd y storm yn siwr o ddistewi wedyn.’

‘Wel ....’ meddai’r criw yn anghysurus.

Doedden nhw ddim eisio i Jona foddi, ond doedden nhw ddim eisio i’r llong suddo chwaith.

‘Ymmm!’ medden nhw gan edrych ar ei gilydd.

Ond roedd y storm yn cynyddu’n ffyrnig. O’r diwedd, dyma nhw’n gafael yn Jona ac yn ei daflu i’r môr. Ar unwaith, gostegodd y storm.

‘Duw Jona ydi’r unig gwir Dduw,’ medden nhw.

Ond beth am Jona druan? Roedd ofn arno. Suddodd yn is ac yn is i waelod y môr.

‘Plis, Dduw,’ erfyniodd. ‘Paid â gadael imi foddi.’

Yr eiliad nesaf, nofiodd pysgodyn amdano a’i geg anferth ar agor. Llyncodd Jona.

‘AAAGGHHH!’ bloeddiodd wrth lithro’n bendramwnwgl i lawr ei gorn gwddf.

O diar! Roedd yn dywyll iawn yn ei stumog.

‘Dduw,’ Mi a i i Ninefe,’ addawodd Jona.

‘Iawn, felly,’ meddai Duw.

Cyfogodd y pysgodyn Jona ar y traeth . A dyna lle’r oedd o’n wlyb diferyd a’i nerfau’n rhacs ar ôl y profiad ofnadwy.

‘Rydw i’n mynd i Ninefe rwan hyn, Dduw,’ meddai.

Ac fe aeth hefyd. Roedd o wedi dysgu ei wers.Fe wrandawodd y bobl arno’n pregethu, a phenderfynu bod yn bobl dda a charedig o hynny mlaen.

‘Da iawn, Jona,’ meddai Duw.