LLADRON CRIGYLL (haen 1)

Mae Traeth Crigyll yn lle nefolaidd yn yr haf. Byddech wrth eich bodd yn treulio diwrnod yno yn ymlacio ar y tywod melyn ac yn ymdrochi yn y môr glas. Mae’n lle delfrydol pan mae’r haul yn pefrio fel diemwntau ar yr ewyn a rhythm slip slopian y tonnau yn swyno’r glust.
 
Ond mae’n lle gwahanol iawn yn y gaeaf. Byddwch yn fferru wrth i'r gwynt ddolefain fel ysbryd rhwng hafnau'r graig ac i’r tonnau llwyd grafangu’r traeth. Ers talwm nid y tywydd, y creigiau a'r moroedd gwyllt oedd yr unig berygl. Yno, ger Traeth Crigyll, y cuddiai lladron câs a fyddai'n dryllio llongau  ar y creigiau ysgythrog trwy oleuo lanteri olew i’w twyllo.
 
Ar noson dywyll ym mis Medi 1773,  roedd llong o’r enw "Charming Jenny" yn ceisio cyrraedd porthladd Caergybi. Roedd y lleuad yn cuddio y tu ôl i gymylau duon ac fe ferwai’r môr wrth iddi frwydro'i ffordd tuag at ddiogelwch y porthladd. Roedd y criw wedi llwyr ymlâdd. Torrai’r rhaffau i’w dwylo wrth iddynt drin yr hwyliau ac fe losgai’r heli eu llygaid.

‘Daliwch eich gafael!’ gwaeddodd y capten wrth i’r gwynt rwygo un o’r hwyliau'n garpiau. Aeth y morwyr ati’n llesg i ollwng yn hwylbren er mwyn diogelu’r llong. Cydiai’r capten yn dynn yn y canllaw wrth i'r bwrdd hyrddio o dan ei draed. Yng nghanol yr helynt fe boenai am ei wraig a lochesai’n ofnus mewn cornel dywyll o’i chaban oddi tano. Roedd wedi ei rhybuddio i aros yno a’i chysuro y byddent yn cyrraedd y porthladd cyn gwaetha’r storm. Yn sydyn cafodd gip ar oleuadau melyn tros ochr y llong. Fe lamodd ei galon ac fe roddodd ochenaid o ryddhad. Efallai nad oedd pethau cynddrwg a'i fod wedi gwneud camgymeriad. Ceisiodd godi calon y criw trwy waeddi, ‘Rydyn ni bron yna!’
 
Bloeddiodd y naill orchymyn ar ôl y llall. Roedd yn rhaid newid cwrs y llong rhag iddynt hwylio heibio'r porthladd. Anelodd y llywiwr drwyn y "Charming Jenny" i gyfeiriad y golau. Bochiodd yr hwyliau, gwichiodd y blociau a thyrchodd trwyn y llong i’r tonnau wrth iddi redeg o flaen y gwynt. Ysgubodd o frig y naill don i’r llall i gyfeiriad gobaith y golau.
 
‘CREIGIAU!’ sgrechiodd y gwyliwr yn ddryslyd.
 
Neidiodd y capten mewn penbleth i helpu’r llywiwr. Gwibiodd ei feddwl wrth iddo geisio deall beth oedd wedi digwydd. Sylweddolodd bod y golau wedi eu twyllo. Roedd yn rhaid troi y llong cyn iddi ddryllio ar y creigiau. Ymladdodd y ddau i droi ei thrwyn yn ôl tuag at y môr agored. Rhyddhawyd y rhaffau, gollyngwyd yr angor a gostyngwyd yr hwyliau mawr. Arafodd y "Jenny" am eiliad cyn i'r gwynt godi unwaith yn rhagor. Bu eu holl ymdrechion yn ofer. Roedd nerth y gwynt a llif y tonnau yn ormod. Hyrddiwyd y llong yn ei blaen, llusgodd yr angor ac fe olchwyd y llong fel gwelltyn tuag at y creigiau.
 
‘Mae ar ben arnon ni!’ gwaeddodd un o'r morwyr.
‘Duw a’n gwaredo!’ wylodd un arall.
  
Cododd cwr llen y cymylau ac fe welsant y clogwyn creigiog yng ngolau’r lleuad gwan. Doedd dim modd dianc bellach. Fe drawodd y llong gydag ergyd fyddarol. Disgynnodd y mastiau, chwipiodd y rhaffau ac fe chwalodd y trawstiau wrth i’r creigiau drywanu’r llong â'u picellau miniog.
 
‘NOFIWCH!’ gwaeddodd y capten.

Gwelodd ei wraig yn chwilio amdano yng nghanol y dryswch a rhedodd tuag ati a'i chodi yn ei freichiau. Taflodd un olwg olaf dros fwrdd y "Jenny" a gwelodd yr eigion yn ei llyncu. Gwyddai nad oedd dim pellach y gallai ei wneud. Gwasgodd ei wraig yn dynn ato ac fe neidiodd y ddau i’r môr gwyllt.
 
Trwy wyrth fe’u golchwyd i’r lan. Gorweddai'r capten yn ddiymadferth a’i grebwyll yn llifo’n ôl a blaen fel y tonnau. Clywodd leisiau croch yn dynesu. Gwyddai eu bod mewn perygl enbyd ac nad oedd trugaredd yn perthyn i Ladron Crigyll. Gwelodd ei wraig yn gorwedd gerllaw ac fe fferrodd wrth i'w modrwyau a’i breichled ddisgleirio yng ngolau’r lanteri. Ni allai symud. Clywodd ochenaid olaf ei wraig fel hunllef wrth i’r lladron ysgubo trwy’r cyrff yn cipio popeth gwerthfawr. Gwyddai na fyddai yr un o drueiniaid y "Jenny" yn fyw i weld y wawr.
 
Cymerodd arno ei fod yn farw. Wedi amser maith fe glywodd olwynion troliau’r lladron yn cilio i lawr y ffordd.
  
‘Mi gewch chi gosb am hyn,’ addawodd wrtho’i hun. Ac felly y bu. O ganlyniad i gynddaredd y capten fe ddaliwyd y lladron. Cafodd rhai eu crogi ac anfonwyd rhai eraill i Awstralia. A dyna fu diwedd lladron peryglus y Crigyll.
  
Heddiw, mae llongau’n gofalu cadw’n ddigon pell ar dywydd garw. Jest rhag ofn!