|
LLADRON CRIGYLL (haen 2) Mae traeth Crigyll yn lle braf iawn yn yr haf. Yr adeg honno, bydd yr haul yn tywynnu a’r môr yn dawel. Ond yn y gaeaf, bydd y tonnau’n sboncio’n beryglus dros y creigiau miniog. A rhaid i’r llongau gadw’n ddigon pell o’r lan. Ond ers talwm, roedd yna reswm arall dros gadw draw. LLADRON CRIGYLL! Roedden nhw’n denu’r llongau ar y creigiau efo lanteri er mwyn dwyn oddi arnynt. Tua dau gan mlynedd yn ôl, roedd y llong "Charming Jenny" yn hwylio am Gaergybi. Roedd hi’n noson dywyll a stormus, a’r tonnau yn codi’n fynyddoedd mawr o’i chwmpas. ‘Daliwch eich gafael,’ gwaeddodd y capten wrth i’r gwynt rwygo un o’r hwyliau yn dipiau. Baglodd i’r cabin i gysuro ei wraig. ‘Mi fyddwn yng Nghaergybi yn fuan,’ meddai. Yn fuan gwelodd olau yn disgleirio ar y lan. ‘Dacw’r harbwr,’ gwaeddodd. Cyflymodd y llong. Roedd y tonnau gwyllt yn ei chludo’n nes ac yn nes. ’CREIGIAU!’ gwaeddodd llongwr yn sydyn. Nid harbwr diogel oedd yno. Roedd y golau wedi eu twyllo. Ond tybed fedren nhw achub eu hunain? Neidiodd y capten i helpu’r llywiwr. Arafodd y llong am eiliad, yna gafaelodd y môr ynddi eto a’i thaflu ar y creigiau. Disgynnodd y mastiau a rhuthrodd y môr dros ei bwrdd. ‘NOFIWCH!’ gwaeddodd y capten. Neidiodd pawb i’r dwr. Rywsut, fe nofiodd ef a’i wraig i’r lan. Ond roedd y lladron yn disgwyl amdanynt. ‘Lladdwch y ddau,’ meddent. Roedd y capten yn rhy wan i achub ei wraig, ac wrth ei weld yn gorwedd yn llipa, fe dybiodd y lladron ei fod wedi marw. ‘Mi gewch chi eich cosbi am hyn,’ meddai’r capten yn ddistaw wrtho’i hun. Ac felly y bu. Ymhen dipyn, fe ddaliwyd y lladron. Cafodd rhai eu crogi, ac fe anfonwyd rhai eraill i Awstralia. A dyna ddiwedd lladron peryglus Crigyll. Ond pan mae hi’n storm ar y môr, a’r llongau yn anelu am Gaergybi, maen nhw’n gofalu cadw’n ddigon pell o Draeth Crigyll. Jest rhag ofn!
|