MORDAITH Y TITANIC (haen 1)

Gadawodd y Titanic harbwr Southampton am hanner dydd ym mis Ebrill 1912. Roedd y tywydd yn braf a’r môr yn dawel.

‘Rydw i’n ddyn lwcus,’ meddai Capten Smith wrtho’i hun. ‘Hon yw y llong fwyaf a’r cyflymaf a’r cryfaf yn y byd. All dim ei suddo.’

Teithiai llawer o bobl bwysig a chyfoethog ar y llong, a llawer o deuluoedd cyffredin hefyd. Roedd yna dadau a mamau, neiniau a theidiau a phlant. Edrychai pawb ymlaen at y fordaith i Efrog Newydd.

Aeth dydd ar ôl dydd heibio tra mwynheai pawb eu hunain. Roedd yna gabanau moethus i gysgu ynddynt, a champfa a phwll nofio i ymarfer. Eisteddai pawb am oriau mewn cadeiriau haul ar y dec, cyn mynd i un o’r caffis i gael te, a dawnsio wedyn gyda’r nos.

Erbyn hyn fe hwyliodd y Titanic ymhell iawn o’r tir. Oerodd y tywydd. Ond roedd Capten Smith a phawb yn hapus. Hon oedd y llong orau yn y byd. Doedd dim angen poeni am dywydd oer a garw.

Roedd llong arall yn y cyffuniau. Gwelodd capten honno fynyddoedd iâ peryglus, ac anfonodd neges radio i rybuddio Capten Smith.

Does dim angen poeni, meddyliodd Capten Smith.. Y Titanic ydi’r llong gryfaf yn y byd. Felly, anwybyddodd y neges.

Hwyliodd y Titanic ymlaen yn gyflym. Beth allai ddigwydd iddi ar noson dawel efo awyr glir a sêr uwchben?

Ond am hanner nos, fe drawodd y Titanic fynydd iâ. Daeth clec anferth. Lledaenodd cryndod trwyddi a duodd y goleuadau am eiliad.

Rhuthrodd pobl o’u cabanau.

‘Peidiwch â phoeni,’ gwaeddodd Capten Smith. ‘Mae popeth yn ôlreit!’

Ond dechreuodd y llong ogwyddo yn is yn y dðr. Dechreuodd pobl sgrechian wrth iddi ogwyddo fwyfwy.

‘Peidiwch â dychryn,’ gwaeddodd Capten Smith eto. ‘Ewch i’r badau achub. Y merched a’r plant gyntaf.’

Ufuddhaodd pawb yn ofnus. Llanwodd y badau achub efo mamau a phlant.

‘Beth am Dad?’ gwaeddodd rhai o’r plant.

‘Maen nhw’n aros ar ôl efo Capten Smith,’ meddai’r mamau yn ddigalon.

Chwareuodd band y Tritanic ganeuon llon. Teimlodd pawb yn well am ychydig. Ond wrth i’r llong suddo’n is ac yn is, dechreuodd pawb weddïo. Roeddyn nhw’n gwybod nad oedd digon o fadau i achub pawb.

Roedd pob bâd yn orlawn. Rhwyfodd y llongwyr hwy oddi wrth y llong yn ddigalon tra’n gwylio y Titanic yn suddo’n is. Fedren nhw ddim coelio’u llygaid. Y Titanic oedd y llong gryfaf yn y byd. A dyma hi, wedi taro mynydd iâ .. ac yn suddo!

Aeth tair awr heibio cyn iddi ddiflannu. Doedd dim gobaith i Capten Smith na’r rhai a arhosodd arni bellach. Er i longau frysio yno i’w hachub, roedd yn rhy hwyr.

Cludwyd y goroeswyr i Efrog Newydd. Cawsant groeso mawr yno.

Ond mae sôn am y Titanic hyd heddiw. Sut y gallai llong mor fawr a chryf daro mynydd iâ ... a SUDDO?