MORDAITH Y TITANIC (haen 2)

Roedd Capten Smith yn credu ei fod yn ddyn lwcus iawn. Roedd o’n gapten y Titanic a hithau ar ei mordaith gyntaf i Efrog Newydd. Y hi oedd y llong fwyaf a chyflymaf a’r cryfaf yn y byd. Ni allai dim ei suddo.

Teithiai llawer o bobl arni. Roedd rhai ohonynt yn gyfoethog iawn, a rhai eraill yn deuluoedd cyffredin. Ond roedden nhw i gyd am fwynhau y fordaith.

Roedd yna gabanau moethus i gysgu ynddynt, a digon o leoedd i dorheulo ac ymarfer, ac i fwyta a dawnsio a chael hwyl gyda’r nos. Teimlai pawb yn hapus iawn.

Hwyliodd y Titanic ymhell o’r tir mawr. Oerodd y tywydd. Ond er ei bod hi’n oer iawn, roedd yn noson braf a chlir. Gwelodd capten llong arall fynydd iâ, a phenderfynodd anfon neges radio i Capten Smith. Roedd yn rhaid ei rybuddio.

Ond ni chymrodd Capten Smith sylw o’r neges.

‘Does dim angen poeni,’ meddai. ‘Mae y Titanic yn llong fawr a chryf.’

Hwyliodd y Titanic ymlaen yn gyflym. Ond am hanner nos, trawodd yn erbyn mynydd iâ. Daeth clec anferth a diffoddodd y goleuadau am eiliad.

Dychrynodd y teithwyr a rhedeg o’u cabanau.

‘Mae popeth yn ôlreit,’ meddai Capten Smith. ‘Mae’r Titanic yn llong ddiogel.’

Ond yn fuan wedyn, dechreuodd y llong suddo. Galwodd y capten ar y mamau a’r plant.

‘Ewch i’r badau,’ gorchmynnodd.

‘Ond beth am bawb arall?’ gofynnodd y mamau a’r plant yn ofnus.

‘Maen nhw’n aros ar y llong,’ oedd yr ateb.

Dechreuodd band y Titanic chwarae caneuon llon. Roedden nhw am godi calon pawb. Ond wrth weld y Titanic yn suddo’n is, dechreuodd pawb weddïo. Doedd yna ddim digon o fadau i achub y rhai oedd ar y llong.

Rhwyfodd llongwyr y badau oddi wrth y llong yn ddigalon. Fedren nhw ddim coelio’u llygaid. Oedd llong mor fawr a chryf am suddo o dan y dðr?

Brysiodd llongau o bob cyfeiriad i geisio achub pawb. Ond fe suddodd y Titanic cyn iddyn nhw gyrraedd.

Cludwyd y bobl oedd yn y badau i Efrog Newydd. Cawsant groeso mawr yno. Ond mae pobl yn dal i sôn am y Titanic hyd heddiw. Sut y gallai llong mor fawr a chryf daro mynydd iâ .. a SUDDO?