Gwaith Trafod

Yn eich grwp ewch ati i drafod:

Ydy'r awdur/es wedi llwyddo i greu ymson sy'n apelio atoch.
Rhowch resymau i gefnogi eich barn.

Beth, yn eich barn chi ydy'r gwahaniaeth rhwng YMSON a STORI?

Testun

Yn eich tyb chi beth ydy'r Sea Empress?

Pam ddewisiodd yr awdur/es y teitl yma?
Fedrwch chi awgrymu teitl gwell?

Yn paragraff 6 mae'r awdur/es yn llwyddo i greu ymdeimlad o banic.
Sut mae o/hi'n gwneud hyn?

Beth ydy neges yr ymson yma?
Beth mae'r awdur/es yn geisio'i ddweud?

                            
Ysgrifennu

Ewch ati i sgwennu darn o farddoniaeth am y Sea Empress.
Cofiwch ddefnyddio cyffelybiaethau:
    e.e.    Olew du fel triog

Cofiwch ddefnyddio trosiadau
    e.e.    cilgant metel wedi rhwygo ar y creigiau.

Beth am geisio personoli yn ogystal!
                         

Brawddeg
                               
Dyma rai o frawddegau o'r stori:
                                   
Mae nhw'n trio golchi fy mhlu.
Mae llong wrth y creigiau a rhywbeth ddu gludiog yn llifo ohoni.
Yn awr, rydw i mewn ystafell.
Chaf i byth eto ei flasu.
                          
Beth am i chi ail drefnu y brawddegau yma.

                                    
Gair

Gwewch restr o'r andoddeiriau dymunol ac annymunol yn y testun.
Beth mae'r ansoddeiriau annymunol yn ei ddisgrifio?

Disgrifio beth mae'r ansoddeiriau dymunol yn ei ddisgrifio?

Gwnewch eich rhestr eich hun o ansoddeiriau dymunol ac annymunol.
                                                                                 

Dymunol Annymunol