SEA EMPRESS (haen 1)

Lledaf fy adenydd a hedfan uwchben y môr. Mor braf ydi teimlo’r gwynt yn fy nal mor ddiogel. Dyma fy nghynefin. A phan fyddaf i wedi blino, byddaf yn dychwelyd at y clogwyn a’r criw gwylanod efo mi. Rydyn ni wrth ein bodd yn troi a throsi uwchben y llongau sydd yn hwylio am harbwr Aberdaugleddau.

Mae rhai ohonyn nhw’n longau mawr, isel yn y dôr. Rydw i wedi arfer gweld rheiny yn hwylio am yr harbwr. Maen nhw’n llawn o olew. Dydw i ddim yn siôr beth ydi olew chwaith. Dim byd peryglus, wrth gwrs. Sut y gall o fod yn beryg ac yntau wedi ei gau’n ddiogel mewn llong?

Weithiau, mi fydd criw ohonon ni’n hedfan i lawr a gorffwys ar ddeciau llongau felly. Dydw i ddim yn hoffi bod yno’n hir. Mae yna arogl dieithr arnyn nhw. Arogl llosg sydd yn aros yn fy mhig am yn hir wedi imi adael. Ond mi fydd y llongwyr yn taflu gweddillion prydau bwyd ar wyneb y dôr. A does run gwylan am golli’r cyfle i gael bwyd mor hwylus. Ond mae blas llosg annifyr ar y bwyd hynny hefyd. Ac mae’n well gen i flas yr ewyn yn fy mhig.

Mae digon o bysgod o dan y tonnau. Ac wedi imi ddal ambell un, mi fyddaf yn arnofio’n braf ar wyneb y dôr.

Ond heddiw, mae pethau’n wahanol. Mae llong wrth y creigiau a rhywbeth du gludiog yn llifo ohoni. Rydw innau’n troi a throsi uwchben ac yn ei gwylio’n cael ei dryllio gan y tonnau. Ond mae’r peth du gludiog yn llonyddu’r tonnau ychydig bellter oddi wrthi. Dyna lecyn da imi ddisgyn a gorffwys arno.

Ond Ow! Mae rhywbeth o’i le. Nid lle diogel i orffwys ydi o. Mae y rhywbeth du gludiog ar fy adenydd .. ar fy mhlu. Fedra i ddim cael gwared ohono. Mae fy mhig yn llawn. Fedraf i ddim llyncu. Rhaid imi godi a hedfan oddi yma.

Ond fedra i ddim! Rydw i’n mygu yn y peth du gludiog, ac yn arnofio’n sypyn tua’r lan. Teimlaf ddwylo yn gafael yndda i. Dwylo pobl. Dydw i ddim yn lecio hynny. Rydw i’n llawn ofn. Ac er fy mod i’n trio fflapian fy adenydd a phigo, fedra i ddim dianc. Maen nhw yn fy rhoi mewn sach tywyll. Rydw i’n rhy wan i ymladd.

Yn awr, rydw i mewn ystafell. Mae yna lot o bobl yma. Maen nhw’n trio golchi fy mhlu. Yn rhwbio a gwasgu fy nghorff llipa a’u lleisiau yn dyner ofalus. Ond mae fy nghalon yn llawn hiraeth.

Caeaf fy llygaid. Mae’r bywyd yn gadael fy nghorff. Ffarwel i ryddid ardderchog y gwynt a’r tonnau. Chaf i byth ei flasu eto.