|
SEA EMPRESS (haen 2) Rydw i’n hedfan uwchben y môr. Mae’n braf teimlo’r gwynt yn fy nal mor ddiogel. A phan fydda i wedi blino,mi fydda i a’r criw gwylanod yn hedfan at y clogwyn draw acw am seibiant. Rydw i’n lecio troi a throsi uwchben y llongau wrth iddyn nhw hwylio i harbwr Aberdaugleddau. Llongau mawr ydyn nhw, a rheiny’n llawn o olew. Dydi olew ddim yn beryglus. Mae o’n ddiogel y tu mewn i’r llongau. Mi fyddwn ni’r gwylanod yn gorffwyso ar ddeciau’r llongau weithiau. Ond fydda i ddim yn aros yn hir. Mae yna arogl llosg annifyr ar y dec. Ac mi fydd yr arogl llosg yn aros yn fy mhig am yn hir wedyn hefyd. Ond mi fydd y llongwyr yn taflu bwyd i’r môr. Ac mae hynny’n gyfle i gael bwyd yn rhwydd. Er rydw i’n clywed blas llosg ar y bara hefyd. Blas y môr a’r ewyn ydi’r gorau gen i. Ac mae digon o bysgod yn y môr. Wedi dal ambell un, mi fydda i’n arnofio’n braf ar wyneb y dôr. Ond mae pethau’n wahanol heddiw. Dacw long ar y creigiau a’r tonnau yn ei chnocio’n ôl ac ymlaen. Ac mi wela i rywbeth du gludiog yn taenu ar wyneb y dôr. Mae o’n aros yn llonydd ar y tonnau. Dyna le da i ddisgyn a gorffwys. Ond Ow! Nid lle diogel ydi o. Mae y rhywbeth du yma yn gludio ar fy mhlu. Fedra i ddim cael gwared ohono. Mae fy mhig yn llawn a minnau’n methu â llyncu. Rhaid imi godi a hedfan oddi yma. Fedra i ddim! Mae’r peth du yma yn llenwi fy mhlu. Yna’n sydyn, mae dwylo yn gafael yndda i. Dwylo pobl. Rydw i’n fflapian fy adenydd i ddianc am fod gen i ofn. Ond dydyn nhw ddim yn gweithio! Rydw i mewn sach dywyll, ac yna mewn ystafell fawr. Mae pobl yn fy ngolchi ac yn trio glanhau fy mhlu. Ond mae’r peth du gludiog yn aros. Ac mi rydw i yn rhy wan i fyw. Mae fy llygaid yn cau a minnau’n marw. Ffarwel i ryddid ardderchog y gwynt a’r tonnau. Wela i mohonyn nhw byth eto.
|
||