Gwaith

Llafar

Mewn grwpiau o dri dychmygwch mai chi yw Magi, Malachi a tad Magi a Malachai.Mae tad Magi a Malachai yn gorfod dweud wrthynt fod eu mham wedi marw ac eu bod am symud i America.

  • Beth yw ymateb Magi a Malachai?Ydy’r ddau yn ymateb yn yr un ffordd?
  • Sut mae eu tad yn dwyn perswad arnynt i symud i America?
  • Beth ydy pryderon Magi a Malachai?
Testun
Chwiliwch am dystiolaeth yn y stori i gefnogi y sylwadau isod:
Sylwadau Tystiolaeth

 

Mae Magi yn ferch ddwys a theimladwy iawn.    
Doedd bywyd ar y llong ddim yn hawdd.    
Mae Malachai yn fachgen cwynfanllyd iawn    

 

Faint yw oedran Magi a Malachi yn eich tyb chi?  Pam ydych o’r farn yma ?

Sut mae eich darlun o dad Magi a Malachi yn newid wrth i’r stori fynd yn ei flaen?

Cychwyn y stori Diwedd y stori


Ysgrifennu

Dychmygwch mai chi yw Magi.  Ysgrifennwch yn eich dyddiadur am y profiad o orfod gadael Iwerddon a mentro ar fwrdd llong enfawr.

Cofiwch sgwennu am eich teimladau dwysaf,eich dyheadau ac eich pryderon.

Brawddeg

Mae’n bwysig iawn defnyddio berfau amrywiol, yn lle dywedodd a meddai ,wrth ‘sgwennu deialog.
Gwnewch restr o’r berfau mae’r awdur/es yn eu defnyddio ac yna ewch ati i lenwi’r bylchau.

‘Ych a fi,’______Malachi .
‘Beth sy’n bod?’_______ei dad
‘Dydw i ddim yn hoffi’r cawl yma,’_________Malachi
‘Mae’n rhaid i ti ei fwyta’________dad
‘Oes raid i mi?_____ Malachi
‘Oes,mae rhaid i ti fwyta er mwyn cadw dy hun yn gryf ac iach ,’____________ ei dad
               

Gair

Cofnodwch y geiriau canlynol yn nhrefn y wyddor:
cwynfanllyd, clwtyn, cadw, cartref, crombil, cyrraedd, cracio, cymylau, crynhoi

Gwnewch restr o’r geiriau sydd a patrwm’ae’ ynddynt e.e .gafaelodd, ymlaen
Ewch ati i chwarae gem gardiau ‘ae’