|
Y FORDAITH (haen 1) Snwffiodd Magi a sychu'i hwyneb yn ddirgel efo'i chlwtyn hanes. Fe fynnai y dagrau grynhoi y tu ôl i'w llygaid er ei bod hi'n gwneud ei gorau i'w cadw draw. Trodd i wynebu ei brawd bach. 'Paid â loetran,' rhybuddiodd yn chwyrn. 'Neu mi fyddwn ni wedi colli Dad.' 'O … ond mae gen i ofn,' ebychodd Malachi yn gwynfanllyd. 'Rydw i'n wlyb domen a dydw i ddim yn lecio stwffio ….' 'Mae'n rhai inni,' meddai Magi yn fyr ei hamynedd. Ond a dweud y gwir, roedd arni hithau ofn hefyd. Roedd arni ofn y criwiau pobl oedd yn gwau trwy'i gilydd ar y cei. Roedd arni ofn y bloeddio a'r gorchmynion a glywai o bob cyfeiriad. Ond yn fwy na dim, roedd arni ofn colli ei thad yng nghanol y dorf. Gafaelodd yn dynn yn llaw ei brawd bach a baglodd ymlaen yn wargam rhag y gwynt a'r glaw. Doedd hi ddim eisio gadael Iwerddon a mentro ar y llong anferth a safai wrth y cei. Gwnaeth lygaid bach yn erbyn y cenlli a syllodd ar rwydwaith y mastiau hirion a estynnai fel coedwig at y cymylau duon uwchben. Sut y gallai'r llong hwylio ar y môr a'i donnau peryglus? Mi fyddai'n sïwr o suddo. Lledaenodd cryndod trwyddi wrth feddwl am ddringo arni a gadael Iwerddon gyfarwydd am byth. Ceisiodd ailddychmygu eu bywyd hapus cyn yr haint datw. Cofiodd am y bwthyn bach gartre a'r tân mawn yn llosgi ar bridd yr aelwyd. Mi fyddai'r mwg yn troelli'n araf at y twll simne yn y to a'r sosban datw yn ffrwtian ar y fflamau. Mi fydden nhw'n deulu hapus efo stumogau llawn a gwelyau sachau cynnes i gysgu ynddynt yr adeg honno. Ac mi fyddai Mam yn fyw. Mi fyddai hi'n chwerthin a chanu a throedio'n hapus wrth ei gwaith. Ond wedi i'r haint ddifetha popeth, mi aeth hi'n denau a gwantan o eisio bwyd. Ac yna, mi fu hi farw. 'Rhaid ichi addo,' dyna ddywedodd hi mewn llais egwan. 'Rhaid ichi fudo tros y môr i fywyd newydd.' Ysgydwodd Magi ei phen yn ddigalon. Beth oedd iws cofio am y bwthyn a'r hen fywyd hapus? Roedd o wedi mynd am byth. Rwan, roedd yn rhaid magu dewrder a dringo'r gangwe. Sut le fyddai ar fwrdd y llong tybed? Roedd hi fel bwystfil mawr yn llyncu pawb i'w chrombil. 'Oes rhaid inni fynd arni, Dad,' holodd. 'Fedrwn ni ddim aros yma yn yr Iwerddon?' 'Na fedrwn, Magi fach,' atebodd ei thad. 'Does dim inni yma rwan. Does gynnon ni ddim bwyd na chartref bellach.' Dim cartref? Am eiliad digiodd Magi wrtho. Wrth gwrs roedd ganddyn nhw gartref. Roedd y bwthyn yno o hyd, on'd oedd? Ond fe wyddai na allai'r bwthyn fod yn gartref hapus a Mam ddim yno, a dim bwyd i'w fwyta. Rhwbiodd ei llygaid rhag y dagrau eto. Doedd hi ddim am fod yn fabi. Roedd ciw anferth ar y gangwe a phawb yn ymwthio a gwingo a sathru traed ei gilydd. Teimlodd Magi y gangwe yn codi a gostwng o dan ei thraed. Beth petai’n cracio a thorri’n ddau o dan bwysau'r bobl? A fedrai ru’n ohonyn nhw nofio. Caeodd ei llygaid rhag edrych i lawr a chael cip o'r tonnau'n slip slopian yn erbyn wal y cei. 'I lawr â chi,' meddai llongwr wedi iddyn nhw gyrraedd y dec. Dangosodd ysgol gul a ddiflannai i dwll tywyll yr howld. Dechreuodd calon Magi guro fel y dringodd yn is ac yn is nes cyrraedd y gwaelod. Ceisiodd edrych i fyny'n ôl er mwyn cael cip o'r awyr uwchben. Ond roedd o wedi diflannu. Doedd dim ond golau egwan ac arogl lleithder o'i chwmpas. 'Dyma ein lle ni,’ meddai Dad wrth ddewis llecyn wrth fur yr howld. 'Paid â phoeni,' cysurodd wrth weld wyneb gwelw Magi. 'Mi fyddwn ni'n ôl reit.' 'O … Dad,' ebychodd Magi'n ddigalon. Gafaelodd ei thad yn Malachi a hithau a'u gwasgu ato. Dychrynodd Magi wrth deimlo pa mor denau oedd ei freichiau. Cododd ofn i'w gwddf. Beth ddeuai o Malachi a hithau petai ei thad yn marw o eisio bwyd hefyd? Wedi taenu'r sachau aethant i fyny'n ôl ar y dec. Gafaelodd Dad amdanynt eto. 'Fe gawn fywyd newydd mewn gwlad newydd, ' meddai. 'A dyna oedd Mam eisio.' Llechodd y ddau'n dynn wrth ei ochr wrth i'r llong gychwyn. Byddai'n saith wythnos cyn iddyn nhw gyrraedd America. Sut le oedd yno, tybed? Cododd lleisiau y morwyr yn groch wrth iddynt ollwng y rhaffau a glymai'r llong wrth y cei. Wylai llawr o'r teuluoedd wrth ffarwelio. Ond ymsythodd Dad yn benderfynol a cheisiodd wenu wrth wylio'r tir yn pellhau gyda nhw. Yna ochneidiodd a throi i'w hebrwng yn ôl i'r howld wrth i'r llong gyflymu drwy'r tonnau. 'Gaf i aros am ychydig, Dad,' erfyniodd Magi. Doedd hi ddim eisio mynd yno nes i dir Iwerddon ddiflannu’n gyfan gwbl. Arhosodd yno am amser hir. 'Ffarwel, Mam. Ffarwel, Iwerddon,' meddai'n ddistaw wrthi'i hun. Aeth y dyddiau heibio'n araf. Teimlai pawb yn ddiflas. Doedd dim i'w wneud ond dringo i'r dec am ychydig ac yna'n ôl islaw drachefn. Ac erbyn hyn, roedd y bwyd yn brin. Byddai'r criw yn paratoi cawl dail bresych a haidd iddyn nhw bob dydd. 'Ych â fi, meddai Malachi. 'Dydw i ddim yn ei lecio fo.' 'Bwyta fo,' gorchmynnodd Dad. 'Rhaid cadw dy hun yn gryf ac iach.' Ond doedd ru’n ohonyn nhw'n gryf ac iach. Roedd wythnosau o eisio bwyd wedi gofalu am hynny. Ciciodd Malachi fur yr howld yn bwdlyd. Doedd o ddim eisio hen gawl ych â fi. Bwytaodd yn anfodlon. Doedd o ddim yn lecio eu hen gawl blas drwg nhw, na'r hen long annifyr 'ma chwaith. Un noson cododd storm fawr. Doedd neb wedi sylwi llawer i ddechrau. Roedden nhw wedi hen arfer efo sbonc y llong ar y tonnau a swn y gwynt yn y rigin. Ond yn fuan, roedd sgrech y gwynt yn diasbedain uwchben a rhuthr traed y llongwyr fel taran wrth iddynt redeg yn ôl a blaen i ostwng yr hwyliau. Dechreuodd y tonnau dywallt dros fwrdd y llong ac i lawr i'r howld. Yn fuan iawn roedd y sachau a’u dillad yn wlyb domen.
Dechreuodd Malachi ddolefain yn swnllyd. 'Mi fyddwn ni'n ddiogel yma yn yr howld,' cysurodd Dad. 'CAEWCH YR HATS!' bloeddiodd llais croch y Capten. 'Na … na,' erfyniodd pawb. 'Chawn ni ddim goleuni nac awyr iach wedyn.' Ond roedd diogelwch y llong yn y fantol. Os gorlifai'r môr i'r howld byddai perygl iddi ddymchwel a suddo. Yn awr, roedd yn dywyll fel y fagddu yno. Dechreuodd pawb deimlo'n sâl. Roedd yna arogl cyfogi a gwlybaniaeth, ac aer hen yn drwm yn eu ffroenau. Ac ymhen ychydig aeth yn boeth annioddefol yno hefyd. Dechreuodd Magi deimlo’n sâl. Roedd ei phen a'i choesau'n brifo a'i chorff yn boeth danllyd. 'Mae'r dwymyn arnat ti,' poenodd Dad. 'Gorwedd ar y sach yna.' Rhoddodd gôt drosti. Estynnodd ddiod o ddwr iddi. Ond fedrai Magi mo'i yfed am fod blas drwg arno. Roedd ei chorff yn llosgi a'i phen yn drybowndian yn boenus. 'Wnawn ni byth gyrraedd,' ochneidiodd Dad.
|
||