Y FORDAITH (haen 2)

Rhwbiodd Magi ei llygaid i rwystro’r dagrau. Doedd hi ddim am fod yn fabi. Doedd ei brawd,Malachi, yn malio dim, a doedd hithau ddim chwaith. Ond roedden nhw’n gadael Iwerddon am byth.

Fe eglurodd Dad bopeth iddyn nhw cyn cychwyn.

‘Mae haint ar y cnwd tatws, a does ganddon ni ddim digon o fwyd,’ meddai’n drist. ‘Rhaid inni ymfudo i America.’

Roedd ciw anferth yn dringo’r gangwe. Tybed oedd yna ddigon o le i bawb ar y llong, dyfalodd Magi.

Dangosodd llongwr yr ysgol gul a arweiniai o dan y dec.

‘I lawr â chi,’ gorchmynnodd.

Roedd yno le dilewyrch a llaith. Taenasant sachau mewn cornel i gysgu arnynt. Ond roedd y lle yn llawn o bobl a phlant, ac yn fuan doedd dim modd anadlu bron. Byddai’n rhaid iddyn nhw fyw yno am weddill y fordaith.

‘Rydyn ni’n gadael!’ gwaeddodd rhywun uwchben.

Rhuthrodd pawb i’r dec. Teimlent yn ddigalon wrth weld Iwerddon am y tro diwethaf. Pwy wyddai sut le oedd yn America? Pan ddechreuodd y llong godi a gostwng efo’r tonnau, dringodd pawb i’r tywyllwch oddi tanodd yn drist.

Ond arhosodd Magi ar y dec. Gwyliodd y llongwyr yn dringo’r mastiau ac yn lledaenu’r hwyliau i ddal y gwynt. Ogwyddodd y llong a chyflymu drwy’r tonnau. Byddai’n saith wythnos cyn iddyn nhw gyrraedd America.

Teimlai pawb yn ddiflas. Roedd pob dydd yn debyg i’r llall. Doedd dim i’w wneud ond dringo i’r dec a dringo’n ôl drachefn. A chan fod bwyd y teithwyr yn prinhau erbyn hyn, byddai’r criw yn paratoi cawl dail bresych a haidd iddyn nhw.

‘Ych â fi,’ cwynodd Malachi.

Yna fe gododd storm fawr. Brysiodd y llongwyr i fyny’r mastiau i ostwng yr hwyliau. Cynyddodd y gwynt a thywalltodd y tonnau dros fwrdd y llong ac i lawr i’r tywyllwch o dan y dec. Dechreuodd pawb gyfogi a theimlo’n sâl.

Roedd yn rhaid gafael yn dynn rhag cael eu taflu. Yn fuan, treiddiodd dwr môr i mewn atynt. Dechreuodd Magi grynu. Ond roedd hi’n teimlo’n boeth ofnadwy hefyd.

‘Mae’r dwymyn arnat ti,’ poenodd Mam.

Rhoddodd Mam hi i orwedd ar y gwely sachau a thaenu côt drosti. Estynnodd lymaid o ddwr iddi. Ond fedrai Magi mo’i yfed. Roedd blas llwydo hen arno.

‘Wnawn ni byth gyrraedd,’ ochneidiodd Mam.

Parhaodd y storm am wythnos. Ond o’r diwedd, gostegodd y gwynt. Dringodd Magi yn wantan i fyny’r ysgol. Dyna braf oedd cael bod ar y dec unwaith eto, a theimlo’r awel ar ei hwyneb.

Yna gwelodd adar môr yn hedfan uwchben.

Dringodd llongwr i’r nyth brân ar ben y mast.

‘Tir!’ gwaeddodd.

Gwenodd Magi yn falch. Roedden nhw bron â chyrraedd o’r diwedd.