![]() |
Dyma stori arswyd sy’n symud yn chwil rhwng Cymru y presennol i Mecsico dair mil o flynyddoedd yn ôl. Mae’r ddwy bennod gyntaf yn gyffrous iawn, lle ceir criw o Flwyddyn 8 ar ymweliad ag Amgueddfa, lle mae arddangosfa o greiriau o Deyrnas y Manataya o Mexico. Yn yr arddangosfa mae arch, a rhywsut mae’r arch yn llwyddo i agor pan fo Paul Gruffudd o’i flaen. Mae’r olygfa yn ddychrynllyd - dyn marw sy’n agor ei lygaid ac yn syllu’n oeraidd arno. Dyma ddechrau’r hunllef ac mae Paul druan yn cael ei sugno i helyntion sy’n mynd ag o yn bell yn ôl mewn amser. Roeddwn
yn arbennig o hoff o sut mae’r llyfr yn llwyddo i gadw’r stori i droi
o ias un funud i chwerthin y llall. A wir i chi, mae Xatlacan, sef y
dyn yn yr arch, yn y diwedd yn troi allan i fod yr un sy’n helpu Paul
trwy’r hunllef o ymladd yn erbyn dewin mwy dychrynllyd a chreulon, sef
Amaquatl. Dyma stori wahanol iawn i unrhyw beth rydych wedi ei ddarllen
yn y Gymraeg o’r blaen. Pris: £3.50 |