|
|
Yn
hwyr ar noson stormus daw teithiwr i dref Caer Fynach ond erbyn y bore
mae'n farw ai'i gorff wedi ei guddio yn yr hen fynachdy. Dyma'r mwrdwr
cyntaf ond nid un llofruddiaeth sydd yn y stori hon ond tri mewn byr amser
.
Y flwyddyn yw 1660 a'r wlad yn weriniaeth. Mae'r digwyddiadau erchyll hyn yn digwydd ar y gororau rhwng Cymru a Lloegr. Mae'r Rhyfel Cartref rhwng y Pengryniaid a Brenhinwyr drosodd ers rhai blynyddoedd ond nid oes diwedd ar y dial a'r atgasedd rhwng y rhai fu yng nghanol y brwydro. Hyd yn oed mewn tref fach mae llawer o gyfrinachau ac mae angen rhywun i ddatrys dirgelwch y llofruddiaethau. Ar gais yr arglwydd lleol mae milwr o Loegr, Capten Lake, yn cyrraedd y dref i geisio darganfod pwy yw'r llofrudd. Nid yw’r siryf lleol yn gallu ei gynorthwyo gan iddo frifo ei goes wrth hela ac felly mae'r Capten yn gorfod dibynnu am help gan blant y siryf, Buddug ac Arwel. Mae'r ddau yn siarad Saesneg ac yn eiddgar iawn i fod yn rhan o'r gwaith i geisio dal y llofrudd ond maent yn gweld mwy o lawer nag oeddynt yn dymuno. Mae'r awdur yn cyfleu perygl y cyfnod ac mae lluniau'r darlunydd yn cyfleu pa mor llwm oedd bywyd y cyfnod. Pwy yw'r llofrudd? Nid stori am ddial yn unig yw hon ond mae'n cynnwys blacmel a potsio - ceisiwch ddatrys y dirgelwch eich hyn wrth ddarllen y stori hon. Teitl: Y Corff Anhysbys |