Yn ôl

Nos Iau (10.00 o’r gloch)

Newydd orffen darllen (ie, fi’n darllen…..!) – eniwê, llyfr bril am yr hogan ’ma o’r enw Corin (cwl o enw yn ’de?). ’Ma hi’n 13 oed (fatha fi) ac yn cadw dyddiadur am ei ffrindiau, ei rhieni, yr hogie ’ma hi’n ffansio, a phopeth grêt ac ofnadwy sy’n digwydd iddi. Mi wnes i chwerthin fel mochyn am ben ei hanes mewn pabell yn y Steddfod, ac ro’n i’n genfigenus iawn ohoni’n cael cariad ‘lyfli’. ’Ma ’na ddarnau reit drist hefyd – mae Corin yn hogan ddigon sensitif. Hot choc cyn cysgu rwan. Nos da!

Dydd Gwener (4.00 o’r gloch)

Wedi deud wrth bawb yn y gang i ddarllen y llyfr yma – hyd yn oed y rhai fase ddim yn meddwl agor llyfr, heb sôn am ei ddarllen. Mae o’n fyr, yn ddoniol, ac mae Gwen Lasarus yn gwbod be di bod yn hogan. Gobeithio y bydd hi’n sgwennu mwy o lyfrau fatha hwn. Dwi am adel Sgribls Hogan Flêr ar fwrdd y gegin – gobeithio y bydd Mam yn ei ddarllen ac yn dallt pa mor anodd ydi bod yn fi.

Sgribls Hogan Flêr
Gwen Lasarus
Cyhoeddwyr: Y Lolfa
ISBN: 0862435684
Pris: £3.95