Yn ôl

 

 

Marcio Marc

Mae'r nofel fer hon yn reit hawdd i'w darllen ac nid yw'r iaith yn rhy anodd. Nid oeddwn yn meddwl bod y dechrau mor dda a hynny, ond wrth ddarllen ymlaen mae'r stori yn gwella. Mae'r darn lle mae Rhys a'i ffrind Huw yn mynd i dy'r athro newydd yn dda a gafaelgar, ac yn reit gredadwy. Does na ddim pregethu na moesoli yn y stori hon, ac mae hi’n gwneud i rywun feddwl am nifer fawr o bethau, fel natur cyfeillgarwch ac a all athrawon fod yn ffrindiau mewn gwirionedd gyda disgyblion yr ysgol lle mae nhw'n dysgu? Mae ochor y bobl ifanc a'r oedolion i'w weld yn y nofel hon, sy'n gorffen yn drist ond gobeithiol Mae'n werth dyfalbarhau gyda'r llyfr yma, mae o'i werth o yn y diwedd.

Teitl: Marcio Marc
Awdur: Pete Johnson
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer
ISBN: 1843230399
Pris: £3.99