|
|
Os ydych chi wedi darllen United!, yn sicr rydach chi’n edrych ymlaen i ddarllen powdr rhech! Os nad ydych chi wedi darllen United!, mi ydach chi’n siwr o fwynhau hwn. Stori sydd yma am ddau hogyn, Dingo Bee a Wayne, sydd ar dân i fynd i Old Trafford hefo'u ffrind Dei Cocos i weld y gêm Man U yn erbyn Arsenal. Mae jyst un broblem fach. Mae’r ddau yn "grounded" gan yr ysgol am chwe mis, ar ôl eu hymddygiad yn y gêm diwethaf yn yr Eidal. Mae Dingo yn cael syniad i drio newid meddwl yr ysgol, ac yn codi pres ar yr un pryd iddyn nhw brynu awê kit newydd Man U ar gyfer y gêm. Mae pethau bron yn mynd o chwith pan mae’r ddau yn prynu pecyn o bowdr rhech, a chael y syniad o’i roi yn nhegell yr ystafell staff! O, a mae Dingo yn gariad i Jennifer, sy’n digwydd bod yn ferch y Pry, sy ddim yn medru diodde Dingo. A mae ‘na ddiwedd annisgwyl. Mwynhewch, te! powdwr rhech! |