|
Dyma nofel fer iawn -
tua 75 tudalen - sy'n andros o hawdd i'w darllen.
Mae'r iaith yn syml ac uniongyrchol ac mae'r stori yn cael ei hadrodd
gan hogyn o'r enw Tomos Jones. Mae'r stori yn cychwyn gyda llawer o
osod cefndir i'r cymeriadau yn y llyfr, sydd ychydig bach yn ddiflas,
ond buan mae'r stori yn cyflymu. Mae yna sawl achos o ddwyn yn yr
ysgol
ac mae pob bys yn pwyntio tuag at Miriam Williams, geneth newydd yn
nosbarth Tomos. Mae Miriam wedi cael ei gosod i eistedd nesa at Tomos,
ac mae Tomos yn ei ffansio fel ffwl, nes iddo yntau argyhoeddi ei hun
mai
Miriam yn wir yw'r lleidr yn yr ysgol. Mi fyddwch chithau, fel finnau,
yn methu rhoi'r gorau i ddarllen nes i chi wybod ai Miriam yw'r lleidr
go wir, ac mae popeth yn cael ei ddatgelu ar y diwedd. Mae'n stori
ddoniol iawn,- bydd hogia yn arbennig yn deall y profiadau mae Tomos yn
eu cael- ddywedai ddim mwy! Mae hi hefyd yn nofel andros o drist ar
adegau - ddywedai ddim mwy am hynny chwaith!
Teitl: Lleidr Cariad
Awdur: Bernard Ashley
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer
ISBN: 1843230429
Pris:£3.99
|