Yn ôl

Faint wyt ti’n wybod am gariad? Wyddost ti sut roedd y deinosoriaid yn caru, neu beth am helyntion y Brenin Arthur? Sut deimlad ydi syrthio mewn cariad? Pam fod cariad yn dod i ben? Be yn union ydi crysh? Pam fod dawnsio mor bwysig? Sut mae fflyrtio? A beth sydd gan lwyau i’w wneud â’r holl beth?

Os wyt ti wedi bod yn pendroni dros hyn i gyd, ac yn chwilio am atebion doniol a doeth, dyma’r llyfr i ti – yr A i Y o bron iawn bopeth am gariad. Mae’n llawn o gartwnau doniol ac fe gei di hwyl mawr yn giglo dros y cynnwys hefo dy ffrindiau. Mae’r addasiad gan Bethan Gwanas, un o’n awduron gorau ni, wedi creu llyfr Cymraeg sy’n wreiddiol a doniol. Cer ati i’w ddarllen – a phob hwyl ar y caru!

Popeth am Gariad … wel, bron!
Awdur: Peter Corey
Addasiad: Bethan Gwanas
Cyhoeddwyr: Gwasg Gwynedd
ISBN: 0860741850
Pris:£3.95