Yn ôl

Straeon dot com

Os ydych yn mwynhau chwarae gêmau cyfrifidadurol a syrffio'r We, hwn yw'r llyfr i chi. Dyma gyfrol o bum stori fer ffantasiol am y byd cyber. Mae pob un yn hawdd i'w darllen, wedi'i sgrifennu'n gyfoes, slic, ac yn frith o jargon cyfrifiaduol. Ydych chi wedi bwrw'ch bol ar y We erioed? Wel, gwae chi'r canlyniadau! Dyma graidd stori Sam a'i becyn cyfrifiadurol newydd sbon danlli yn Y Trefniadur Tanbaid, a Meinir hithau, wrth iddi siarad â'i chyfeillion cyfrifiadurol yn y 'Stafell Sgwrsio' yn Het Haul Hwlc. Ffantasi'n troi'n realiti annifyr yw'r stori a geir yn Bomio Ali Baba a Rali Monte Carlo. Dim ond gêm rhithwir gyffrous yw bomio pentrefi bychain i Gavin a Dylan - ar y dechrau! A beth am Dyfan a'i gêm newydd rasio ceir? Ai dychmygu'n unig y mae wrth deimlo ffon lywio'r gêm yn troi'n llyw car rali go iawn?


Golygydd: Gordon Jones
Cyhoeddwyr: Gwasg Gomer
ISBN: 1843231131
Pris:£3.95