Yn ôl

Dyma stori ar ffurf dyddiadur am yr Ail Ryfel Byd. Cawn wybod am brofiadau Edie Benson, merch ifanc yn Llundain, yn ystod y cyfnod ofnadwy hwnnw pan oedd Llundain yn cael ei fomio o’r awyr. Mae’n eneth ofalus ac aeddfed, ac wrth ddarllen ei dyddiadur, rydych yn teimlo eich bod yn dod i’w hadnabod yn dda, ac oherwydd hyn mae’n haws o lawer uniaethu a’r hyn sy’n digwydd iddi. Yn ystod y cyfnod hwn, fe yrrir hi a’i brawd bach Tom fel efaciwis i Lantrisant yng Nghymru er mwyn eu harbed rhag y bomiau, ond profiadau digon annifyr a chas maent yn ddioddef yn ystod eu cyfnod yno. Mae’r teulu yn dioddef effaith waethaf y rhyfel pan laddir Frank, y brawd hynaf gan gyrch gan yr Almaenwyr ar orsafoedd yr RAF. Mae’n debyg ei bod hi’n haws deall sut oedd pethau ar adeg ddychrynllyd fel hyn trwy ddarllen ffuglen amdano yn hytrach na darllen llyfrau hanes, ac mae hyn yn arbennig o wir am Blits.

Mae addasiad Eigra Lewis Roberts yn hynod hawdd ei darllen a’r iaith yn hwylus ac agos atoch. Rwyf yn argymell y nofel hon yn gryf i rai sy’n hoffi nofelau hanesyddol y gellir ymateb iddynt ar lefel emosiynol a phersonol.

Teitl: Blits (Fy Hanes i)
Awdur: Vince Cross
Cyhoeddwr: Gomer
ISBN: 1843231352
Pris: £4.95