|
|
| "Ding
ding dong, a dwbwl dong, Mae mywyd i 'di mynd yn hollol rong" Dyma sut mae Sgôr yn dechrau. Mae Siôn yn eitha gutted gan ei fod wedi derbyn y newyddion annisgwyl fod ei dad wedi cael swydd arall, a bydd yn rhaid i'r teulu symud i fyw i ...dde Cymru! Sut wnaiff Siôn ymdopi mewn ysgol newydd yng nghanol yr Hwntws? Darllenwch am helyntion Blwyddyn 10 - am wneud ffrindiau a gelynion, mynd i bartïon, cychwyn chwarae mewn band a chynnal gigs, ac yng nghanol hyn i gyd, ceisio cael sylw yr hyfryd a pherffaith Teleri. Nofel wych, hawdd iawn i'w darllen yw hon, sy'n llawn o bethau i'ch gwneud i chwerthin. Peidiwch â pheidio darllen Sgôr!! Teitl: Sgôr |