![]() |
I’r rhai ohonoch sydd ddim yn hoffi straeon rhy hir, dyma gyfres werth edrych arni. Mae’r llyfr ar ffurf stribed comic, gyda llai o sgwennu na nofel arferol. Stori ydi Neges o’r Bedd am griw o bobol ifanc sy’n treulio eu hamser yn hela ysbrydion. Mae yna un ysbryd heb ben sydd wedi cael ei weld droeon wrth gofgolofn yn y parc, ac mae Dan a’i ffrindiau yn awyddus iawn i’w weld o trostynt eu hunain. Pan fo Dan yn mynnu ei fod o wedi gweld yr ysbryd, toes na neb yn ei goelio, ond mae Dan yn hollol sir bod gan yr ysbryd neges bwysig iawn iddynt. Mae Dan yn fyddar ond yn gallu darllen gwefusau – a dyna sut mae’n datrys neges yr ysbryd yn y diwedd. A beth yw’r neges o’r bedd? Agorwch y llyfr i weld! Dyma lyfr hawdd iawn i’w ddarllen gyda digon o symud a diweddglo braidd yn annisgwyl. Teitl: Neges o’r Bedd Pris: £3.95 |