Yn ôl

Wyt ti’n meddwl bod gwersi hanes yn ychafi, yn anodd ac yn ddiflas? Wel os wyt, dyma’r llyfr i chdi. Yma mi gei di hanes hyll a dychrynllyd y Celtiaid Cythryblus.

Cei gyfle i gael cipolwg ar y ffordd roedd dy hen, hen, hen, hen, hen,hen. H…E…N, deidiau a neiniau yn byw. Cei eu hanes yn casglu pennau pobl am hwyl, ac i addurno drysau eu tai, yn ymladd yn hollol noeth, heblaw am dorch fychain o amgylch eu gwddw, yn chwerthin mewn angladdau ac yn crio mewn genedigaethau.

Cei ddarllen ffeithiau ffiaidd, fel y ffordd orau i ddienyddio (torri pen) dy elyn, a sut i biclo y pen yma wedyn. Sut i goginio pwdin pys (un o hoff fwydydd y Celtiaid) a pham mai’r marched oedd yr ymladdwyr mwyaf ffyrnig.

Mae’n llyfr hawdd iawn i’w ddarllen. Cei amrywiaeth o baragraffau bychan, ffeithiau ffiaidd, cartn a lluniau digri, gemau, cwis a hyd yn oed rysetiau i’w blasu.

Yn sicr, nid llyfr i’r gwan ydi hwn. Rhaid cael stumog gryf iawn i ddarllen hanesion y ‘seintiau syfrdanol, derwyddon dychrynllyd, aberthau annymunol a’r gwragedd gwaedlyd gwallgof ‘.

Os wyt ti’n teimlo’n ddigon dewr, dyma un o’r llyfrau hanes hyllaf, mwyaf gwaedlyd a ffiaidd y gwnei ei ddarllen erioed.

Y Celtiaid Cythryblus
Terry Deary
Amgueddfa Genedlaethol Cymru
£3.99