|
|
Dyma
nofel am ddau fachgen ifanc a’u ffrindiau. Yma gwelir gelyniaeth rhwng
y ddau brif gymeriad, wrth i un fod yn fos a bwli dros y llall, ddatblygu
i fod yn sefyllfa annifyr o chwarae’n troi’n chwerw. Boz yw’r bwli, a
dyma ei brif dalent. Dyma gymeriad sydd yn datblygu, wrth i’r stori fynd
rhagddi i fod yn llawer dyfnach na’r arwyneb caled a ddengys i’w ffrindiau
a’r byd. Portreada’r awdur, trwy’r cymeriad yma, yr hyn y gallwn oll ei
adnabod fel bwli. Mae Seimon, neu "Sleimi" i Boz a’i ffrindiau,
ar y llaw arall yn dawel ac yn darged perffaith ar gyfer talentau Boz
fel bwli. Gwelir Boz a’i ffrindiau yn gosod Sleimi mewn nifer o sefyllfaoedd
annifyr iawn trwy gydol y nofel, er ymdrechion Sleimi i gadw o’u ffordd.
Mae dilyniant esmwyth i’r nofel a nifer o ddigwyddiadau cyffroes. Mae doniolwch i gadw’r darllenydd o fewn cloriau’r llyfr, er fod pwnc difrifol hefyd yn cael ei drafod. Mae’n delio’n dda gyda’r broblem o fwlio o fewn ein hysgolion a sut, yn y pen draw, mae’n bosib gorchfygu’r broblem. Yma mae stori fydd yn gyfarwydd o safbwynt un o’r cymeriadau yn y llyfr i bob darllenydd, boed yn fwli, yn darged neu wyliwr yn y gêm. Dyma nofel sydd yn werth ei darllen er mwyn dysgu mwy amdanoch eich hun a’ch ffrindiau, ac os nad ydi hynny’n ddigon, esgus er mwyn ychydig o antur a chyffro. Mae’n nofel y gellir ei mwynhau gan fechgyn a merched fel ei gilydd Teitl:
Boz a Sleimi
|