|
|
O’r
diwedd llyfr am bêl-droed! Nid oes llyfr tebyg iddo wedi bod ar gael yn
yr iaith Gymraeg o’r blaen - dyna un rheswm yn unig i gael golwg ar y
llyfr hwn sydd yn cynnwys deg o storïau pêl-droed. Mae hanner ohonynt
yn rhai gwreiddiol Cymraeg a’r hanner arall yn addasiadau o’r Saesneg.
Mae dwy o’r storïau gan ferched, sef ‘Plan ‘A’ gan Emily Huws a ‘Tymor
a hanner’ gan Siân Eleri Davies, ond nid ysgrifennu yn unig am ferched
sydd yn hoffi chwarae a gwylio pêl-droed maent ond yr hwyl ar sbort wrth
geisio ennill. Mae chwarae’n dda yn bwysig ond mae buddugoliaeth yn bwysicach!
Mae disgrifiadau gwych
o bob agwedd o’r gêm o’r digri i’r dieflig - dyma ran o stori
Emily Huws. Storïau am dimau ysgol a thimau ifanc lleol sydd yn y gyfrol. Buaswn wedi hoffi darllen o leiaf un stori am chwaraewr pêl droed yn y brif gynghrair: dyna sydd ar goll yma roedd angen unarddeg stori yn y gyfrol, un i bob aelod o dim pêl-droed, nid deg - ond arwydd o lyfr da yw fod rhywun eisiau darllen mwy! Un o’r pethau pwysicaf wrth chwarae pêl-droed yw gallu ‘darllen gêm’ sef gwybod ble i fod a phryd i fod yno ar y cae chwarae. Dyma gyfle i ddarllen am y gêm ac mae’n rhaid gwybod ble i gael copi a phryd i fod yno i’w gael! Gyda llun neb llai na Ryan Giggs ar y clawr dyma gasgliad o storïau iw mwynhau drosodd a throsodd. Sgorio Bob Tro |