Yn ôl

‘Coed Criafol saif yn gyntaf,
'Wedyn gwynt nad ydyw’n darfod…’

Meddai’r hen rigwm sy’n dal yr atebion i’r hyn sydd ar ddigwydd yn y stori wirioneddol ddychrynllyd yma. Mae’n rhan o’r gyfres Gwaed Oer, a chredwch fi, hon yw’r un waethaf eto! Mae’r stori’n dilyn hanes Cleo sydd newydd symud i fyw i’r Morfa gyda’i rhieni a’i brawd. Mae’n sylwi bod y gwynt sy’n chwythu’n ddi-baid yno yn tawelu yn ystod y nos, ac ar yr adegau hyn, mae’n clywed swn rhywun yn prowlan o gwmpas tu allan i'r ty. Mae’r hen goed criafol sydd yn arwain at y ty yn cael eu torri i lawr a’r rhain sydd wedi cael eu plannu yno i gadw ysbrydion drwg draw! Heb amddiffyniad y coed mae’r ffordd yn glir i ddewiniaeth dywyll ddod yn ôl. Mae’n rhaid i Cleo a’r gath sydd wedi byw yn y Morfa erioed geisio ymladd yn ôl, ond sut? Mae’r stori hon yn llawn arswyd ac i’r rhai nerfus ohonoch fel fi, rhybudd: peidiwch â darllen y llyfr yn eich gwely ar eich pen eich hun. Jest rhag ofn ichi glywed, fel y gwnaeth Cleo, rhywbeth yn symud yn y wardrob….

Teitl: Y Gath a’r Cythraul
Awdur: Clare Cooper (addasiad Helen Emanuel Davies)
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer (Cyfres Gwaed Oer)
ISBN: 1859029590
Pris: £4.50