|
|
"Ar
y graig uchaf uwchben y dwr fe saif ffigwr mewn du, yn anweledig i’r
gweithwyr ac i bawb arall a ddaw heibio. Dôn, Duwies y Llyn, sydd yno, yn
gwylio’n drist ffolineb a thrachwant dynion y llawr." Mae
Ffran yn amau fod rhywbeth rhyfedd iawn yn mynd ymlaen ger Llyn
y Mamau. Mae ‘na weithwyr diarth yno yn gosod ceblau ond does neb yn
siwr iawn pam. Mae ‘na hipis wedi dod i wersylla ar Gae Stwmp - rhywbeth
arall i Ffran boeni amdano. Pan drefnir Gwyl Roc ar dir y ty mawr lleol,
caiff Ffran ei thynnu i ganol y dirgelwch. Pwy
felly yw’r ffigwr syn' gwylio popeth dirgel sy’n sefyll ar graig ar
lan y llyn? Os mai hi yw Duwies y Llyn wnaiff hi helpu Ffran? Os ydych chi’n hoff o stori ddirgelwch ac o geisio dyfalu beth fydd ei diwedd, byddwch yn siwr o fwynhau hon. Yr un modd os ydych chi’n hoffi stori gyda thipyn o hyd a lledrith ac awgrymiadau o fyd y tu hwnt i’n byd ni, fe fyddwch hefyd wrth eich bodd. Teitl: Duwies y
Llyn |