| Deunyddiau Darllen Grwp | |
| FFEITHIOL |
|
RHYBUDD: Mae poblogaeth orang-wtangiaid y byd wedi haneru mewn 20 mlynedd. Maen nhw'n anifeiliaid prin tu hwnt, ac os na chawn nhw help llaw, mi fydd pob orang-wtang wedi diflannu o'r tir cyn y flwyddyn 2030. Borneo:
Cartref yr orangwtang. Miloedd o filltiroedd o Gymru. Mae 1998 wedi bod yn
flwyddyn anodd i Borneo. Llosgwyd 19,000 milltir sgwar o fforest Borneo ddechrau
1998. Lladdwyd 8,000 o orang-wtangiaid a syrthiodd niferoedd yr orang-wtangiaid yno
o 23,000 i 15,000. * Nid tân ydi unig elyn orang-wtangiaid Borneo. Mae rhai yn cael eu lladd gan bentrefwyr tlawd i'w bwyta, a rhai bychan yn cael eu dal a'u gwerthu fel anifeiliaid anwes. Mae torri coed yn broblem hefyd. Mae ardaloedd anferth o fforestydd Borneo yn cael eu torri bob blwyddyn a'r fforestydd yma ydi cartref yr orang-wtang, ac mae'r torrwyr coed yn eu gorfodi nhw i fyw mewn ardaloedd bach o goed sy'n mynd yn llai ac yn llai fesul diwrnod. * Ond mae rhai pobl yn gweithio i helpu'r orang-wtangiaid. Mae nifer o'r orangwtangiaid yn cael eu hachub, ac yn cael gofal yng Nghanolfan Wanariset yn nwyrain ardal Kalimatan. Mae'r orang-wtangiaid yn dysgu sut i ofalu amdanynt eu hunain yn y gwyllt eto, cyn cael eu rhyddhau i ardaoloedd diogel o'r fforestydd. Mae pob orang-wtang sy'n cael eu rhyddhau yn cario tag electroneg, ac mae'r gweithwyr yn y ganolfan yn gallu cadw llygad ar hynt yr orang-wtangiaid wedyn.
Helô! Haripan yr orang-wtang ydw i. Ystyr Haripan ydy Gobaith yn iaith Malay. Dwi'n orang-wtang ifanc. Fe fydda i'n aros gyda fy mam nes fy mod i tua saith oed, ac fe gaf i faban fy hun pan fydda i tua deg oed. Rydan ni'r orang-wtangiaid yn byw nes ein bod tua 60 oed! Dwi wrth fy modd yn dringo. Dwi fel acrobat yn y coed - dwi'n llawer mwy chwareus na'r orang-wtangiaid hyn. Mae'n nhw'n drymach ac yn llawer mwy diog! A dweud y gwir, ychydig iawn o amser rydyn ni'n ei dreulio gyda'n traed ar y ddaear - brigau'r coed ydi ein cartref ni. Gyda'r nos, bydd mam yn treulio tua hanner awr yn adeiladu nyth i ni yn y coed. Mae hi'n plethu a gweu brigau i greu llwyfan diogel, ac yno byddwn ni'n swatio'n gynnes a chysgu tan y bore. Fy hoff fwyd i ydi ffrwythau. Mae mam yn dangos myrdd o goed ffrwythau yn y fforest i mi, ac yn fy nysgu pa ran o'r ffrwyth sy'n flasus a phryd mae'r ffrwythau gwahanol yn aeddfed. Cyn bo hir fe fydda i'n gallu adnabod dros 200 math o goed ffrwythau gwahanol! Mmm! Dwi'n lwcus, achos rydyn ni'n byw yng Ngwarchodfa Meratus. Ddary'r tanau ddim cyrraedd yma, a does neb yn torri'r fforest er mwyn cael coed chwaith. Ond dyw llawer o fy nghefndryd i yn Borneo ddim hanner mor ffodus... |
|