Deunyddiau Darllen Grwp
FFEITHIOL

Gweithgareddau

Celtica

Wyt ti wedi bod yn Celtica erioed? Cafodd gohebydd CIP wahoddiad arbennig i gamu'n ôl mewn hanes a dilyn trywydd y Celtiaid hyd heddiw.  Felly dyma hi'n gafael mewn papur a beiro ac yn ei throi hi am Fachynlleth...

"Mae Arddangosfa Celtica wedi ei gosod mewn plas gosgeiddig dafliad carreg o gloc Machynlleth.  Agorwyd drysau Celtica am y tro cyntaf yn 1995 gan Bryn Terfel.  O gyntedd Y Plas es i fyny'r grisiau derw at yr arddangosfa gyntaf sef Y Ganolfan Ddehongli.  Ym mhob man o'm cwmpas roedd mapiau, modelau, lluniau, crochenwaith, gwybodaeth ysgrifenedig a botymau swn.  Ar hyd un wal roedd hanes Cymru, hanes y gweldydd Celtaidd a hanes y byd i gyd yn cael ei groniclo o 500,000 C.C. hyd at 1994.  Sôn am amser hir!!! Doedd dim rhaid i ti ddarllen yr holl stwff henesyddol yma cofia, gallet ti fwynhau a theimlo'r holl naws jyst wrth edrych ar y lluniau, byseddu'r creiriau ac arbrofi gyda'r botymau sain. 

Wyt ti erioed wedi bod mewn pictiwrs 3D?  Wel, mae'r Arddangosfa Glywedol yn Celtica yn creu yr un math o awyrgylch.  Ge's i glustffonau arbennig am fy nghlustaiu, ac i ffwrdd â fi ar antur fentrus i ddyfnderoedd y byd Celtaidd.  Ro'n i'n cael fy arwain o un stafell i'r llall, ac er bod hi'n dywyll a dirgel yno (a mod i dipyn bach yn ofnus!) roedd cael cyrraedd y stafell nesaf wastad yn agoriad llygad, yn enwedig wrth glywed hanes bywydau'r Celtiaid.  Mi fues i mewn coedwig dywyll, yn Annwfn - lle sy'n gweld i'r dyfodol, mewn pwll di-waelod, mewn pentref Celtaidd, mewn ty crwn ac mi gyfarfyddais â merch ddymunol iawn o'r enw Nia.

Mae Nia yn bedair ar ddeg oed ac yn byw gyda'i theulu mewn pentref Celtaidd.  Y gof ydi ei thad, ac mae o'n ddyn pwysig iawn yn y pentref.  Mae ei brawd Cadfab, yn filwr dewr, ond mae i brawd bach, Gwydion, yn mynd i fod yn dderwydd pan fydd o wedi tyfu'n ddyn.  Mae Nia yn gofalu am ei thaid.  Es i gyda Nia i weld gweddill trigolion y pentref, pobl ryfedd a diddorol iawn!

Arweiniodd Nia fi i'r ty crwn wedyn, ac wrth wasgu botwm roedd trigolion y ty crwn yn dod yn fyw ac yn dweud peth o'u hanes wrthyf fi!

Ar ôl cerdded drwy'r goedwig dywyll wrth gyrion y pentref, dyma eistedd ar lan trobwll i glywed hanes Gwydion a'r Derwydd.  Ro'n i'n teimlo'n union fel taswn i mewn gwlad hud a lledrith, yn rhan o'r digwyddiad cynhyrfus o'm blaen.   Mae Gwydion wedi cael ei daflu i mewn i'r trobwll tra bod y Derwydd uwchben yn rhoi cyfarwyddiadau iddo.  Mae'n rhaid i Gwydion ddatrys llawer o bosau er mwyn gweld i'r dyfodol.  Wrth wylio Gwydion yn troi a throsi o dan y dwr, ge's i'r teimlad bod popoeth o'm cwmpas yn chwylrio o'm cwmpas.  Ar ddiwedd yr antur, mae Gwydion yn troi'n bysgodyn ac yn llwyddo i ddianc rhag suddo i'r gwaelod.  Diolch byth am hynny!

Wrth gerdded allan o'r arddangosfa, wedi clywed criw o leisiau'r ardal yn canu Yma o Hyd gan Dafydd Iwan, mae siop Celtica yn fy wynebu.  Os wyt ti esiau anrheg pen-blwydd i Mam neu anrheg anghyffredin i Dad dyma'r lle i ddod.   O grys-t i emwaith, o losin i eiriadur, mae popeth Cymreig i'w cael yn y siop yn Celtica.  A sôn am wario!  Mi ges i lyfr i Taid, modrwy i Mam, llechen i Dad...   Ac ar ôl yr holl siopa a cherdded ac edrych a chwarae mi es i ar fy mhen i gael paned a chacen yn y bwyty yn Celtica!  Ew, mae'r baned 'ma'n dda!

A chyn gadael, dyma fynd am sbec i gornel chwarae Tir na N'Og.   Ew, lle difyr - ac mi fasa dy frawd neu dy chwaer fach yn dotio yma!  Coedwig liwgar, môr o wely glas a gwyn, sleid, ffram ddringo, pibydd, storiwr... ac ar ganol y llawr roedd tair piben wydr yn llawn o ddwr lliwgar.   Roedd swigod bach yn rhedeg i fyny ac i lawr ac yn symud yn gyflym o gwmpas y dwr.  Roedd yn union fel dwr y trobwll yn chwyrlio o gwmpas Gwydion!

A dyna ddiwedd ar fy antur ddifyr i o amgylch Celtica.  Wnes ti fwynhau?  Beth am alw draw gyda dy fam a dy dad, a dy chwaer, a dy ffrind..."

 

Am fwy o fanylion cysyllta â Celtica, Y Plas, Machynlleth, Powys, SY20 8ER. Ffôn: 01654 702702. E-bost: celtica@celtica.cymru.net Ar agor drwy'r flwyddyn o 10 y bore hyd 6 yr hwyr (oni bai am Noswyl Nadolig a Diwrnod Nadolig). Gellir gwneud trefniant arbennig ar gyfer grwpiau mawr, a grwpiau addysgol, gan gynnwys gweithgareddau a gweithdai arbennig.