| Deunyddiau Darllen Grwp | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| FFEITHIOL |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| Wyt ti'n casglu calennig? Wyt ti wedi derbyn ceiniog neu ddwy yn galennig i ddathlu dechrau'r flwyddyn? Wyt ti wastad yn cynilo dy arian mewn mochyn bach pinc wrth ochr dy wely? Ydi dy boced di'n wag ar ôl gwario arian fel dwr ar anrhegion Nadolig? Wel, un lle sy byth yn brin o arian ydi bathdy Llantrisant ger Caerdydd. Bu un o ohebwyr CIP yn chwilota am galennig Y bathdy yn Llantrisant ydi'r unig fathdy yng Nghymru heddiw - lle'n llawn trysorau! Dechreuwyd cynhyrchu arian ym Mhrydain yn gynnar yn y ganrif gyntaf cyn Crist. Roedd yr arian cyntaf yma'n cael eu copïo o ddarnau arian Marseilles. Arian wedi ei fowldio oedd hwn, ond yn fuan dechreuwyd taro arian â llaw, a dyna sut roedd pres Prydain yn cael ei wneud wedyn am 1500 o flynyddoedd. Daeth diwedd ar arian Celtaidd pan goncrwyd Prydain gan y Rhufeiniaid. Ar ôl hynny, arian Rhufain oedd yn cael ei ddefnyddio yma. Am tua 200 can mlynedd yn dilyn ymadawiad y Rhufeiniaid, nid oes unrhyw gofnod o wneud arian ym Mhrydain. Ond erbyn 650 O.C. roedd bathdy yn Llundain eto, ac erbyn y flwyddyn 1000 roedd sawl bathdy ledled y wlad. Yn 1279, crëwyd un bathdy mawr yn Nhwr Llundain, ac am 500 o flynyddoedd yno roedd y rhan fwyaf o arian Prydain yn cael ei fathu. Yn 1811, symudodd y bathdy ychydig lathenni i ffwrdd i Little Tower Hill. Erbyn hyn roedd peiriannau'n gyfrifol am wneud yn holl arian. Erbyn y 1960au roedd yn rhaid cael bathdy newydd, yn bennaf oherwydd bod angen miloedd ar filoedd o ddarnau arian newydd sbon ar gyfer diwrnod degoli yn 1971. Dyma pryd roedd hen arian fel tair ceiniog a grôt yn diflannu, a'r arian rydyn ni'n ei ddefnyddio heddiw yn ymddangos am y tro cyntaf. Felly, ar 17 o Ragfyr, 1968, agorwyd y bathdy yn Llantrisant. Am gyfnod, roedd y bathdy yn Tower Hill yn dal i gynhyrchu arian, ond ym mis Tachwedd 1975, gwnaethpwyd y sofren aur olaf yno. Wyddost ti .
Felly os wyt ti'n mynd allan i gasglu c'lennig ddechrau'r mis yma, edrych ddwywaith ar y darn arian yn dy law rwyt ti'n gwybod rhywfaint o'i hanes rwan!
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||