Deunyddiau Darllen Grwp
FFEITHIOL

Gweithgareddau

Mellt a Tharannau

Mae tua 16 miliwn o stormydd mellt tharannau bob blwyddyn, ledled y byd. Oes gen ti ofn swn taran, neu wyt ti’n dotio wrth weld mellt yn goleuo’r awyr? Ond wyt ti’n gwybod beth sy’n achosi storm o fellt a tharannau tybed?



1.
Fel arfer mae stormydd mellt a tharannau yn dechrau o gymylau cwmwlo-nimbus tywyll sy’n eistedd yn agos i’r ddaear ac yn ymestyn cymaint ā 15km i’r awyr yn siāp einion y gof.

2.
Mae dafnau o ddwr a chrisialau rhew yn cael eu taflu o gwmpas yn y cwmwl gan symudiad yr awyr. Maen nhw’n rhwbio yn erbyn ei gilydd ac yn creu cerrynt trydanol.

3.
Pan mae’r cerrynt trydanol yn ddigon cryf, mae’n gwibio rhwng y cymylau neu tua’r’ ddaear fel fflach o fellten. Gall y fellten fod bum gwaith poethach na wyneb yr haul – 30 000° C!

4.
Mae’r gwres yn peri i’r awyr o amgylch ehangu a chywasgu yn sydyn iawn, a dyma sy’n gwneud i swn y daran ddiasbedain. Mae’r daran a’r fellten yn digwydd yr un pryd, ond rydyn ni’n gweld y fellten cyn clywed y daran achos bod golau’n teithio’n gynt na swn.

5.
Yn aml mae dargludydd arbennig yn cael ei osod ar adeiladau tal i gludo’r fellten yn ddiogel i’r ddaear.

6.
Ym Mhegwn y Gogledd a Phegwn y De welwch chi fyth fellten na chlywed taran. Does dim cymylau’n ffurfio yno achos ei bod hi mor ofnadwy o oer!




Duwiau Stormydd

Ers talwm credai pobl Llychllyn mai ysbrydion rhyfelwyr dewr yn marchogaeth drwy’r awyr oedd yn achosi stormydd. Enw un o’r duwiau oedd Thor. Fo oedd duw’r daran, a swn ei guro fo oedd i’w glywed ar y Ddaear islaw. Roedd Thor yn taro’i elynion yn farw gyda mellt.