Deunyddiau Darllen Grwp
FFEITHIOL

Gweithgareddau

I BLE’R AETH YR HAUL?

Bore dydd Mercher, Awst 11eg 1999, bydd yr Haul yn diflannu! Am ychydig funudau tua 11.10 y bore bydd y Lleuad yn pasio rhwng y Ddaear a’r Haul gan orchuddio’r Haul yn llwyr, a thaflu rhan o’r Ddaear, gan gynnwys Prydain, i dywyllwch ganol dydd!

  • Bydd yr adar yn stopi canu, yr anifeiliaid yn meddwl bod y nos wedi dod, goleuadau’r stryd yn goleuo, a’r blodau yn cau eu petalau. Ond paid â phoeni, ar ôl tua dau funud bydd yr Haul yn ymddangos fesul dipyn bach eto, a’r tywyllwch yn graddol ddiflannu.
  • Y lle gorau i weld y sioe oleuadau wych yma fydd yng Nghernyw a De Dyfnaint, er y bydd Prydain gyfan yn gweld eclips rhannol fydd yn para tua dwy awr a hanner. Felly beth yn union ydi eclips?
1
Bydd y cyfan yn dechrau tua 10 o’r gloch y bore. Gan ofalu edrych drwy lensys arbennig, gelli weld cegiad fechan yn cael ei gnoi o gornel dde uchaf yr Haul. Yn araf iawn, dros yr awr nesaf bydd y cegiad yn raddol mynd yn fwy a mwy wrth i olau dydd diflannu.


haul1.jpg (15694 bytes)


2
Wrth i’r Haul ddiflannu i siâp cilgant (siâp banana) bydd hi’n teimlo fel bod storm ar fin dechrau – ond heb y cymylau duon. Braidd yn iasol!

3
Eiliadau cyn i’r Haul diflannu’n llwyr bydd y cilgant Haul yn troi’n gadwyn o fwclis llachar wrth i belydrau’r Haul dywynnu drwy fynyddoedd a dyffrynnoedd y Lleuad. Yr enw Saesneg ar hyn ydy Baily’s Beads, wedi eu henwi ar ôl Seryddwr o Sais, Francis Baily (1774-1844). Fe ddisgrifiodd y golau yn 1836.



4
Fesul un, bydd y mwclis yn diflannu, a phan fydd un yn unig ar ôl gelli weld yr effaith drawiadol o’r enw modrwy ddiamwnt.

 

5
Pan fydd y Lleuad yn llwy orchuddio’r Haul, am tua 11.10 o’r gloch, gelli edrych ar yr Haul heb lensys arbennig. A dyna olygfa heb ei hail! Disg fawr ddu lle dylai’r Haul fod ac o’i amgylch, fel blodyn cosmig anferth, pelydrau’r haul yn tywynnu.

6
Pan fydd mwclis Baily yn ymddangos eto bydd yr eclips llwyr drosodd, a bydd dy berthynas di â’r Haul byth yr un fath eto!


Mae eclips fel hyn yn digwydd unwaith bob 18 mis mewn rhyw ran o’r byd. Ond, dim unwaith bob 360 o flynyddoedd y bydd eclips llwyr yn digwydd yn yr un lle. Y tro diwethaf i eclips llwyr ddigwydd ym Mhrydain oedd ar 29ain o Fehefin 1927, ac er ei bod hi’n gymylog roedd Dinbych, Caernarfon, Cricieth a Bermo ymysg yr ardaloedd gafodd eu plymio i dywyllwch. Oes rhywun yn dy deulu di yn cofio hyn tybed?

Dim ond yng Nghernyw a De Dyfnaint fydd yr Haul yn diflannu’n llwyr, ond yma yng Nghymru fe fydd y rhan fwyaf o’r haul yn cael eu guddio gan y Lleuad. Edrych ar y tabl yma ………

                                                                  

Amserlen yr Eclips 11 Awst 1999

Lle Yr eclips yn dechrau Yr eclips yn gorffen Faint o’r haul gaiff eu orchuddio
Caerdydd 10.00 o’r gloch 12.35 o’r gloch

97.2%

Birmingham 10.02 o’r gloch 12.36 o’r gloch

93.5%

Manceinion 10.03 o’r gloch 12.35 o’r gloch

90.1%

Llundain 10.03 o’r gloch 12.39 o’r gloch

96.6%



Y Tywydd

Wrth gwrs, mae’r olygfa fydd i’w gweld yng Nghernyw a De Dyfnaint fis Awst yn hollol ddibynnol ar y tywydd. Mae’r tywydd yn yr ardal yn annibynadwy ar y gorau – gyda 45% o siawns o awyr glir ar Awst 11eg. Fe fydd hi’n tywyllu hyd yn oed os ydi hi’n gymylog, ond welwn ni mo’r golygfeydd syfrdanol os na fydd y cymylau yn cadw draw. Croesa dy fysedd am awyr ddi-gwmwl! (Neu cer i Ffrainc i weld yr eclips!)



RHYBUDD PWYSIG PWYSIG

Cofia beidio edrych ar yr Haul heb lensys arbennig i ddiogelu dy lygaid – BYTH!




Ar Ionawr 21ain 2000 bydd eclips llwyr ar y Lleuad - a gall pawb ym Mhrydain ei weld – os bydd yr awyr yn glir!


Mae eclips yn digwydd gan fod yr Haul a’r Lleuad, drwy gyd ddigwyddiad, yn edrych yr un maint o’r Ddaear. Y gwir ydi, mae’r Haul 400 gwaith yn fwy na’r Lleuad, a 100 gwaith yn fwy na’r Ddaear. Dychmyga gae pêl-droed. Yng ngheg un gôl mae clamp o bêl draeth fawr. Dyma’r Haul. Yng ngheg y gôl arall mae pysen fechan werdd gyda phupur du yn troelli o’i hamgylch tua 30cm i ffwrdd. Y bysen ydi’r Ddaear a’r pupur du ydy’r Lleuad. Cosmig!
        
Chwedlau

Ers talwm, roedd pobl yn addoli’r Haul, a chredai llawer mai arwydd o dymer y duwiau oedd eclips.

Ym Mecsico, credent bod eclips yn digwydd pan oedd yr Haul a’r Lleuad yn cweryla, tra credai pobl Tahiti mai syrthio mewn cariad oedd yr Haul a’r Lleuad adeg eclips.

Roedd yr Inuit yn credu bod yr Haul a’r Lleuad yn gadael yr awyr yn ystod eclips, ac yn dod i wneud yn sïwr bod popeth yn iawn ar y Ddaear.

Roedd llawer o bobl yn credu bod draig fawr yn dod i fwyta’r Haul yn ystod eclips, ac roedden nhw’n gwneud popeth yn eu gallu i ddychryn y ddraig a chael golau dydd eto. Roedden nhw’n gweiddi, yn taro drymiau, yn taro’u cwn er mwyn iddyn nhw udo ac yn saethu tân i’r awyr i geisio llosgi’r ddraig. A bob tro, hyd yn hyn, mae’r Haul wedi dychwelyd.

Mewn rhai gwledydd, mae’r heddlu yn cau’r holl ffyrdd adeg eclips ar yr Haul – efallai bydd hyn yn digwydd yma! Cofia hefyd nad mewn tref ydi’r lle gorau i weld yr eclips – gan bydd goleuadau’r stryd yn goleuo’n awtomatig ac yn difetha’r olygfa.

Bydd yr eclips llwyr nesa ym Mhrydain ar 23ain o Fedi 2090. Ie, 2090! Felly bacha’r cyfle yma i weld yr olygfa syfrdanol yma! Mae’n gyfle prin fel aur!