Deunyddiau Darllen Grwp                                                           
GWEITHGAREDDAU: STORIAU     

 

'Sgidiau Ryan Giggs

  • Darllen y stori: pawb yn darllen paragraff neu ddau bob yn ail (sylw i gywirdeb a darllen synhwyrol).

  • Trafod prif ddigwyddiadau'r stori, yn eu geiriau eu hunain.

  • Trafod y prif gymeriadau - sut rai oedden nhw?

  • A oes geiriau dieithr, neu ddim yn sicr o ystyr rhai ohonyn nhw?

  • Cysylltu'r stori â'u profiadau hwy - Fuon nhw'n siopa yng Nghaer?  Beth fyddai ar eich rhestr o'ch cas bethau chwi?

  • Chwarae gêm. " Dwi'n gweld efo fy llygaid bach i, rhywbeth yn dechrau efo..... (Y plant yn eu tro i ddewis llythyren sy'n lythyren cyntaf rhyw air yn y stori, a'r gweddill i chwilota amdano.)

Ffocws ieithyddol - defnyddio'r atalnod

  1. Ceir naw sefyllfa pan fo angen defnyddio atalnod. ond, rydan ni am edrych ar dri.
    a) gwahanu mewn rhestr
    b) i rannu brawddegau hir
    c) i ddangos y toriad rhwng rhywun yn siarad, a naratif
       
  2. Edrych ar ddau baragraff o'r stori 'Sgidiau Ryan Giggs. Defnyddio'r paragraff sy'n dechrau "ChwarddoddHanna yn uchel..." a'r un dilynnol, a thrafod y defnydd o'r atalnod.
       
  3. Cyn, troi at Campwaith 2 tud 30 i 31 a thrafod y cynnwys.
      
  4. Ar ddiwedd yr wythnos cyfle am rhyw hanner awr ar ôl cinio, o drafod y stori â'r dosbarth cyfan, a'r defnydd o'r atalnod.  Defnyddio darn heb atalnodau a thrafod y mannau priodol i'w cynnwys.  Pe dymunir, gellir rhoi ymarferion pellach fel rhan o waith cartref.