| Yr Wy Pasg Pwyntiau trafod
- Ar ôl darllen y paragraff cyntaf holwch y plant pa fath o berson/anifeiliaid maent yn
ei gredu sydd yn y stori.
- Darllenwch yr ail ar trydydd paragraff. Oeddech chin iawn?
- Beth ddigwyddodd i Tada?
- Pa fath o anifail yw Blewsyn?
- Pam nad yw Titwn hoffi siocled ar ddiwedd y stori?
- Oedd hin deg fod Blewsyn wedi cael y bai am y llanast gan ei feistr ar ddiwedd y
stori? Trafodwch.
Ffocws iaiethyddol - defnyddio ebychnod
- Defnyddir ebychnod i ddynodi rhywbeth doniol neu annisgwyl neu pan fydd rhywun yn
gweiddi (weithiau caiff y geiriau syn cael eu gweiddi eu ysgrifennu mewn
priflythrennau hefyd).
- Gallwch ddod o hyd i engreifftiau da or tri math yn Campiaith 1 ar tud.
56.
- (Nodyn ir athro - Os gallwch chwyddor stori i ddwy dudalen A3 au
lamineiddio, bydd yn haws ir plant wneud y gwaith syn dilyn ac fe allwch
ddefnyddior un tudalennau drosodd a throsodd) Defnyddiwch bin ffelt i gylchu pob
ebychnod sydd yn y stori. Faint ydych wedi eu cylchu? Fe ddylech fod wedi darganfod 24 i
gyd!
- Trafodwch pam fod ! yn cael ei ddefnyddio mor aml ac i pa bwrpas. Oes engraifft or
tri math yn y stori?
- Er mwyn ymarfer y defnydd or ebychnod ymhellach gellir defnyddior darn sydd
ar tud. 57 o Campiaith neu defnyddio darn or stori heb ei atalnodi a gofyn
ir plant ei atalnodi.
|