Deunyddiau Darllen Grwp                                                           
GWEITHGAREDDAU: STORIAU     

 

Jason a’r Eliffant

Pwyntiau trafod

  1. Ar ôl darllen y darn beth ydy eich barn am Jason? Ydy o’n fachgen hoffus?
              
  2. Ydych chi’n adnabod rhywun sydd yn debyg iddo?
               
  3. Beth ydych chi’n feddwl o rhywun sydd yn bwlio plant eraill?
                
  4. Beth fyddech chi’n ei wneud os fuasai rhywun yn eich bwlio chi?
                
  5. Pam ydych chi’n credu fod rhai plant yn hoffi bwlio eraill?
                  
  6. Ydy diwedd y stori’n ffordd dda o’i chloi?
                   
  7. Fedrwch chi feddwl am ffordd/ffyrdd arall/eraill o ddelio â bwli? Peidiwch a bod yn rhy gas!

 

Ffocws ieithyddol – edrych ar gymalau o fewn brawddegau

  1. Esbonio i’r plant fod brawddeg hir yn aml wedi ei gwneud allan o nifer o gymalau.
                      
  2. Edrychwch ar y paragraff olaf a chymharwch ef â’r paragraff hwn:-Roedd pawb yn eu hwyliau, ar y ffordd yn ôl adref o’r sw y noson honno. Roedd y plant yn canu ‘Bing-bong-be’ yn llawen yng nghefn y bws. Eisteddai Jason yn y pen blaen. Roedd yn dawel a di-stwr, am y tro cynta’r diwrnod hwnnw – ac yn wlyb diferol o’i gorun i’w draed. Roedd Miss Jones yn hepian cysgu’n braf wrth ei ochr, ac yn gwenu wrth freuddwydio am eliffant bach a’i fam.
                         
  3. (a) Beth ydych yn sylwi am y cymalau yn y paragraff uchod a’r gwreiddiol?
  4. (b) Pa baragraff yw’r un mwyaf effeithiol? Pam? Edrychwch ar ddechrau’r brawddegau uchod, sawl Roedd sydd yna?
    (c) Oes modd newid/cymysgu’r cymalau ymhellach?               

  5. Ewch ati i ddisgrifio un person - gall fod yn ffrind yn elyn neu’n fwli. Ceisiwch greu brawddegau aml-gymalog diddorol. Ar ôl i chi orffen dangoswch ef i blentyn arall, allith o/hi ail-drefnu’r cymalau i’w gwneud yn fwy diddorol.