| Y Dant
Pwyntiau trafod
Ydi'r plant wedi colli'u dannedd babi?
A oes gan rhai ohonyn nhw brofiadau diddorol?
Sut oedden nhw'n teimlo pan gollwyd y dannedd blaen?
Ffocws - defnyddio collnod
- Edrychwch ar y paragraff sy'n dechrau "Y broblem
.
Sawl gwaith y mae'r collnod yn cael ei ddefnyddio?
Chwiliwch amdanyn nhw.
- Mae collnod yn dweud bod llythyren ar goll mewn gair. Weithiau,
mae collnod fel reffari rhwng dwy lythyren, yn eu cadw nhw rhag ffraeo!
- Pa lythyren sydd ar goll yn y brawddegau yma tybed?
'Dan ni'n siarad
'Dw i'n cofio
Maen' nhw'n clywed
Cario 'mlaen
Pwy sy'n gweiddi
'Swn i'n dweud mai fo oedd y bai!
Fedrwch chi ysgrifennu pum brawddeg gan ddefnyddio collnod ymhob un?
|