Ble Maer Eira?
Pwyntiau trafod
- Trafod beth fydd y plant yn hoffi ei wneud ar ddiwrnod diflas, glawog os ydynt adref yn
ystod y gwyliau neu ar y penwythnos.
- Darllen y stori. Ar ôl ei darllen holir cwestiynau canlynol:
- Oedd syniad cyntaf Sam a Sara yn un da? Pam?
- Fyddech chi wedi hoffi chwarae allan yn y glaw?
- Ydyr paragraff olaf yn ffordd dda i orffen y stori? Pam?
- Ydyr plant wedi cael eu haeddiant ar ddiwedd y stori?
- Oes gwers iw dysgu or stori hon? Beth ydyr wers?
Ffocws ieithyddol edrych ar ddyfynodau
Edrych yn benodol ar y 3ydd paragraff "Anwybyddodd Sara ei brawd
.. o gwmpas y
ty rownd y ril
." ar paragraf olaf ond un, "O plis mam, sniff,
oedd cwyn Sam.
Sylwi fod y darn cyntaf yn eithaf hir ac nad oes ond un darn byr o ddeialog
(uniongyrchol) ynddo. Pam? A fyddai ysgrifennu hwn ar ffurf deialog wedi bod yn rhy
ddiflas ac hir-wyntog?
Trafodwch.
Sylwi fod y darn nesaf ychydig yn fyrrach ond yn ddeialog i gyd. Pam? Ydy on well
ffordd efallai o ddangos teimladaur ddau blentyn? Trafodwch.
Tasg
Trafodwch ddiwedd y stori ydy on ganlyniad teg ai peidio? Fedrwch chi ysgrifennu
diweddglo gwell?
NAILL AI -
Ysgrifennu paragraff o sgwrs uniongyrchol rhwng Sam a Sara wrth iddynt edrych allan
drwyr ffenestr i ddisgrifor hyn a welant au teimladau am hynny.
NEU -
Ysgrifennu paragraff o sgwrs uniongyrchol rhwn Sam a Sara wrth iddynt chwarae yn yr eira
gan smalio na chawsant annwyd ar ôl bod yn y glaw.