| Chwilio am y Tân
Pwyntiau trafod
Darllen a mwynhaur stori. Gofyn ir plant ddarllen yn unigol gan newid
cyfeiriad a phatrwm y gofyn i sichrhau fod pob unigolyn yn dilyn y testun wrth i rywun
arall ddarllen.
- Holir cwestiynnau canlynol gan sicrhau lle i bawb yn y drafodaeth.
- Ym mha wlad maer stori hon wedi ei lleoli? Sut y gwyddoch chi hynny?
- Ydy hon yn stori wir, go-iawn? Beth ydyr enw a roddwn ni ar y math yma o stori?
Trafod y gwahaniaeth rhwng chwedl a myth.
- Wnaethoch chi fwynhaur stori? Ydy stori or math yman berthnasol heddiw
yn ein hoes fodern ni?
- Wyddoch chi am straeon eraill tebyg i hon? Pa rai? Ydy rhai ohonynt yn ceisio esbonio
rhwybeth nad oedd pobl erstalwm yn ei ddeall? Pam?
- Pa mor hen ydych chin feddwl ywr stori hon?
- I ymestyn y drafodaeth ynmhellach gallech gymharur stori hon âr darn
ffeithiol Mellt a Tharannau os ywr plant yn gyfarwydd â hwnnw neu
gallech fynd ati iw ddarllen fel dilyniant gwrthgyferbynniol ir stori hon.
Ffocws ieithyddol - Newid y stori sydd yn defnyddio llawer o siarad uniongyrchol (direct
speech) i stori ddisgrifiadol adroddol (reported speech)
- Trafod y stori. Nodir prif bwyntiau neu ddigwydiadau.
- Peidio ysgrifennu deialog o gwbl.
- Ysgrifennu prif ddigwyddiadaur stori mewn ffordd ddiddorol a bywiog heb
ddefnyddio dyfynodau. Ceisio cywasgur stori 3 ochr i un ochr A4.
- Cymharur ddwy fersiwn. Pa un ywr gorau ganddynt? Pa un fyddair orau
iw hadrodd i gynulleidfa?
Ymestyniad - creu meim i gyd-fynd âr stori a
defnyddio un or fersiynnau adroddol fel sylwebaeth ar y meim. Perfformior
cyfan o flaen dosbarth arall neur ysgol gyfan!
|