Storir Hwrdd Ddu
Pwyntiau trafod
- Cyn dechrau darllen y stori holir plant ymhle mae Llanbedr Pont Steffan ai
leoli ar fap o Gymru.
- Sut fath o ddyn oedd y sgweiar?
- Trafodwch beth ydy neu beth oedd sgweiar? Beth oedd ei waith?
- Pam fod Herbert Lloyd eisiau cae Siôn Philip?
- Beth yw hwrdd?
- Beth ddigwyddodd i Siôn Philip ar ôl iddo gael y bai am ddwyn yr hwrdd? Beth
fyddain digwydd i rywun heddiw yng Nghymru os fuasent yn dwyn?
- Oedd cosb Siôn Philop yn un teg? Trafodwch.
- Oes caeau o gwmpas eich cartref/ysgol chi? Ydych chin gwybod os oes enwau arnynt?
Efallai y gallech chi neuch athro wneud ymholiadau yn eich archifdy lleol neu holi
bobl hyn yn eich tref/pentref chi. Tybed oes stori ddiddorol ynghlwm wrth un or
caeau neu unrhyw fan cyfagos?
Ffocws ieithyddol edrych ar ansoddeiriau au defnyddio i gyfoethogi eich
gwaith ysgrifenedig.
- Chwilotwch am yr ansoddeiriau yn y stori hon. Sawl un fedrech chi ei ddarganfod?
- Ysgrifennwch rest o 5 ansoddair fyddain addas i ddisgrifio
| (i) |
Siôn Philip |
| (ii) |
Herbert Lloyd |
| (iii) |
Yr hwrdd ddu |
- Defnyddiwch eich ansoddeiriau mewn brawddeg i ddisgrifior ddau brif gymeriad yn
unol ach barn bersonol chi.
- Ysgrifennwch frawddeg am Siôn Philip o safbwynt Herbert Lloyd.
- Ysgrifennwch frawddeg am Herbert Lloyd o safbwynt Siôn Philip.
- Trafodwch sut maer disgrifiadaun newid yn ôl gwahanol safbwyntiaur
cymeriadau yn y stori. Oedd gwahaniaeth barn ymysg y plant hefyd?
|