Deunyddiau Darllen Grwp                                                           
GWEITHGAREDDAU: FFEITHIOL

 

Wyt ti’n casglu calennig?

Pwyntiau trafod

Trafod gyda’r plant beth yw calennig cyn dechrau darllen y darn ffeithiol hwn, ac ar ba adeg o’r flwyddyn mae’n cael ei gasglu.

Holi’r cwestiynnau canlynol er mwyn darganfod os yw’r plant wedi mewnoli’r ffeithiau yn y darn.. Efallai y bydd angen ail-ddarllen rhannau wrth gyd-drafod.

  1. Ers faint o flynyddoedd mae arian wedi cael ei fathu ym Mhrydain? Trafodwch y gwahaniaeth rhwng O.C. ac A.D. gan nodi pryd ac yn lle bathwyd yr arian.
                                    
  2. Sawl fersiwn gwahanol o £1 sydd ar gael? Pam?
                    
  3. Gellir cynnal cystadleuaeth yn awr i weld pwy all gofio neu lithr-ddarllen gyflymaf i ganfod yr wybodaeth ganlynol:-
  4. Pryd ddaeth y darnau canlynol i’r golwg gyntaf?
    (a) 20c (b) £1 (c) 5c a’r 10c bach (ch) 50c (ch) £2

  5. Beth sydd yn arbennig am bunt 1985, 1990 ac 1995?
                      
  6. Pa fath o arian oedd yn cael ei ddefnyddio ym Mhrydain cyn y diwrnod degoli yn1971? Yn y fan yma mae cyfle i’r plant holi eu rhieni, perthnasau hyn neu fynd i lyfrau cyfeirio, syrffio’r Wê i gywain gwybodaeth am arian e.e. beth oedd gwerth ½d, 3d, 6d, swllt, dauswllt neu hanner coron? Beth oedd eu lliw? Maint? Mae’r posibiliadau’n ddi-rifedi.
  7.  


Ffocws ieithyddol - mynegi barn

  1. Trafodaeth lafar ar fanteision ac anfanteision y sustem arian ddegol a’r hen ddull.
                        
  2. Ceisio gwneud sym adio neu dynnu gyda 3 colofn £ s d yn lle £ c 
    Nodi rhinweddau/ffaeleddau y ddwy sustem ar ffurf rhestr ac ysgrifennu paragraff i grynhoi eu dadl.

  3. Edrych ar fesurau eraill sydd wedi degoli fel pwysau , hyd a chynhwysedd.
    Trafod pam fod sustemau degol yn haws i’w defnyddio na’r hen fesurau ‘Imperial’.
  4.