| I Bler Aeth yr Haul? Pwyntiau
trafod
- Ar ôl darllen y stori trafodwch y cwestiynnau canlynol, gofynnwch ir plant
ddefnyddior wybodaeth sydd yn y darn i ategu eu atebion.
- Pam na ddylech edrych yn uniongyrchol ir haul?
- Pryd oedd yr eclips ddiwethaf ym Mhrydain?
- Beth sydd yn achosi ir haul ddiflannu?
- Pa lefydd ym Mhrydain fydd y llefydd gorau i wylior eclips?
- Pryd fydd yr eclips llwyr ar y lleuad yn y flwyddyn 2000?
- Beth sydd yn rhaid iw gael i wylio eclips y lleuad ar haul yn llwyddiannus?
- Fyddwch chin debygol o weld yr eclips nesaf or haul? Pam?
- Beth ydych chin feddwl or hyn a welsoch adeg yr eclips? Trafodwch.
Ffocws ieithyddol - creu nodiadau cryno ar ôl darllen darn ffeithiol
- Er mwyn symleiddior dasg ychydig dylid canolbwyntio ar yr wybodaeth o rhif 1
6 ar y dudalen gyntaf o I Bler Aeth yr Haul?
- Gweithiwch drwy rhif 1 gydar plant ar lafar gan ofyn iddyn nodi eu hatebion ar
ffurf nodiadau gan ddefnyddio cyn lleied o eirau ag sydd yn bosib. e.e. Rhif 1 10
or gloch lensys arbennig cegiad fechan cornel dde uchaf yr
haul- awr nesaf golaun diflannu a.y.y.b.
- Gofyn ir plant weithion annibynnol ar rhifau 2, 3, 4, 5 a 6 efallai gallent
weithio mewn parau os nad ywr math yma o waith yn gyfarwydd iddynt.
- Ar ôl iddynt gwblhaur nodiadau gofyn iddyn eu rhoi i blentyn/pâr arall i weld os
allith/allent eu dilyn a chael yr holl wybodaeth ohonynt.
|