| Deunyddiau Darllen Grwp | |
| GWEITHGAREDDAU: FFEITHIOL |
|
| CELTICA Pwyntiau Trafod Wedi cwblhau'r darllen, gofynnwch y cwestiynnau isod i'r plant i brofi'u dealltwriaeth. Dylent gyfeirio ar yr ateb yn y testun. 1. Beth yw enw'r arddangosfa gyntaf? 2. Beth ddigwyddodd i Gwydion? 3. Pam fod tad Nia yn ddyn pwysig yn y pentref? 4. Sut mae ymwelwyr i'r Ganolfan yn cael cymorth i ddeall yr arddangsofa? 5. Beth arall, heblaw'r arddangosfa, sydd yn Celtica a pham eu bod yno? 6. Fedr y plant feddwl am lefydd tebyg y maent wedi ymweld â hwy? 7. Pam eich bod yn clywed Yma o Hyd gan Dafydd Iwan wrth adael yr
arddangosfa? Ffocws - edrych ar sut mae creu paragraffau da 1. Dwyn sylw'r plant at y nifer o baragraffau sydd yn yr erthygl. Trafod pam fod angen paragraffau. 2. Darllen y frawddeg gyntaf ym mhob paragraff. Beth ydyn nhw? Cyfeirio at be' mae nhw? Mae hyn yn rhoi trefn ar yr ysgrifennu 3. Edrych ar y paragraff sydd â'i frawddegau wedi'u cymysgu (gweler y daflen A3). Fedrwch chi roi trefn arnyn nhw? Cofiwch ddod o hyd i'r frawddeg agoriadol sy'n sôn am gynnwys y paragraff. 4. Fel gwaith cartref, ysgrifennwch baragraff yn disgrifio eich cartref. Cofiwch feddwl am y frawddeg gyntaf, mae honno'n bwysig. O hyn ymlaen, pan fyddwch chi'n ysgrifennu, fedrwch chi gofio trefnu eich gwaith yn baragraffau. A oes angen meddwl amdanyn nhw cyn dechrau ysgrifennu? |
|